Gai Toms i ryddhau sengl a fideo ‘Pobol Dda y Tir’

Bydd Gai Toms yn rhyddhau ei sengl a fideo newydd ddydd Gwener yma, 14 Awst.

‘Pobol Dda y Tir’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label annibynnol Gai, Recordiau Sbensh.

Dyma gynnyrch cyntaf y cerddor amryddawn ers ei albwm cysyniadol uchelgeisiol, Orig, a ryddhawyd llynedd, gyda sioe lwyfan yn teithio theatrau dros yr hydref.

Nid yw Gai yn un i aros yn segur yn hir, a gyda’i gynnyrch diweddaraf mae wedi troi am noddfa greadigol yn ysgafnder yr ukulele – offeryn nad yw wedi defnyddio llawer arno yn y gorffennol gan ei fod “i’w glywed ar bob hysbyseb teledu a rhaglen plant!’ i ddefnyddio geiriau’r cerddor.

Yn ôl Gai daeth riff cofiadwy ‘Pobol Dda y Tir’ ar hap wrth chwarae ukelele ei ferch pump oed, Esi, o gwmpas y tŷ.

Dechreuodd y gân fel un eithaf syml felly, ond buan iawn yr aeth Gai ati a’i dalent aml-offerynol i ychwanegu haenau eraill iddi yn ei stiwdio yn ystod y cyfnod clo.

Cerddoriaeth positif

Mae’r gân yn cynnwys sampl, sy’n atsain o ‘Pink Fluffy Coulds gan The Orb, o sgwrs ffôn gyda chyfaill i’r cerddor, Gwenno Haf Jones.

Mae hen sampl o blant yn gweiddi “Hei” wedi’i ddefnyddio ar y trac hefyd, gan atgoffa rhywun o werin-dub rhyngwladol Manu Chao.

Yn dilyn cyfnod sydd wedi bod yn heriol i Gai, mae’r geiriau a’r gerddoriaeth yn bositif, ac yn cynnig rhywfaint o oleuni yn ystod y tywyllwch mae pawb wedi’i brofi yn ystod 2020. Fel dywed geiriau’r gytgan – “Gweld yn glir, trwy’r afluniadau llwydion sy’n drysu’r gwir”

“Mewn amser heriol, mae angen edrych ar y byd o ogwydd gwahanol” meddai Gai.

“Fel cerddor, mae dysgu offeryn newydd yn ddrws i’r byd hwn. Mewn tywyllwch, mae angen golau… mae’r ukelele fel yr haul!”

Fideo llawn lliw

Mae ‘Pobol Dda y Tir’ yn ran o gasgliad o ganeuon sydd wedi’u cyfansoddi dros y cyfnod clo fydd yn ymddangos ar ei albwm nesaf, ‘Y Filltir Gron’. Does dim dyddiad rhyddhau ar gyfer yr albwm eto.

I gyd-fynd â’r sengl bydd fideo yn cael ei ryddhau ar gyfer ‘Pobol Dda y Tir’.

Fideo llawn lliw a llun sy’n atgyfnerthu’r neges yn y gân, ac sydd hefyd yn cynnwys gwaith celf gan Gai Toms ei hun.