Galwad am artistiaid ar gyfer Gŵyl y Ferch

Mae gŵyl sydd â’r nod o roi llwyfan i ddoniau merched lleol wedi rhoi galwad am artistiaid i berfformio yn y digwyddiad yn 2020.

Mae Gŵyl y Ferch yn fenter greadigol yng Nghaernarfon a ddechreuwyd yn 2019 gan Esme Livingston a Ffion Pritchard.

Bwriad y project ydy rhoi llwyfan i artistiaid, perfformwyr, beirdd a merched lleol sydd â rhywbeth i’w ddweud!

Mae’r ŵyl yn ôl eleni am ail flwyddyn o gelf, cerddoriaeth a sgyrsiau yn Oriel CARN, Caernarfon ac mae’r trefnwyr yn galw ar i gerddorion sy’n awyddus i gymryd rhan gysylltu â hwy.

Maent yn chwilio am bob math o gelf, perfformiadau, ffilmiau, barddoniaeth, neu dehongliad creadigol o unrhyw fath yn ymateb i’r thema ‘MAE BYD CYFARTAL YN FYD RHYDD’.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu â’r trefnwyr am ffurflen gais i gymryd rhan yn yr ŵyl trwy ebostio –gwylyferch@gmail.com.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy  31 Ionawr, a cynhelir yr ŵyl rhwng 28 Chwefror a 12 Ebrill.