Wrth i ddyddiad rhyddhau ei halbwm newydd agosáu, mae Georgia Ruth wedi rhyddhau sengl newydd ddydd Gwener, 13 Mawrth.
‘Cosmos’ ydy enw’r trac diweddaraf i ymddangos oddi-ar drydydd albwm Georgia, sef ‘Mai’.
Mae cryn edrych ymlaen at yr albwm newydd, a bydd ‘Mai’ yn cael ei ryddhau’n swyddogol ar label Bubblewrap Collective ddydd Gwener nesaf, 20 Mawrth.