Geth Vaughan yn rhyddhau ‘Patrymau Angel’

Mae Geth Vaughan wedi rhyddhau ei sengl newydd ar label I KA CHING ddydd Gwener diwethaf, 17 Ionawr.

‘Patrymau Angel’ ydy enw’r sengl, a dyma gynnyrch cyntaf y cerddor ers sawl blwyddyn.

Mae’r sengl newydd yn un bersonol iawn, fel yr eglura’r cerddor sydd wedi’i leoli ym Manceinion.   

“Ysgrifennais alaw ‘Patrymau Angel’ yn fuan ar ôl i `Nhaid farw tair blynedd yn ôl”, eglura Geth Vaughan.

“Ar y pryd doedd gen i ond geiriau i’r pennill cyntaf, ac mae’r rhan am ‘batrymau angel ar wely gwyn’ yn cyfeirio at fynd nôl i’r ystafell yr oedd Taid ynddi, ar ôl iddyn nhw symud ei gorff, a’r dillad gwely heb ei newid.”

“Casglu llwch oedd y demo, nes i mi ei ail ddarganfod yn ddiweddar – mae gweddill y geiriau yn sôn am y broses o alaru.

“Mae’r sampl ar y diwedd wedi ei gymryd o hen VHS ohona i a fy chwaer yn siarad efo Taid.”

Recordiwyd y gân yn stiwdio ddylunio Geth ger Manceinion, ble mae’n dylunio ac yn animeiddio o dan yr enw ‘Young’.

Ail-gynhyrchwyd a chymysgwyd y gân wedyn gan y cynhyrchydd o Ddyffryn Conwy, Llŷr Pari.

Crëwyd y gwaith celf gan Geth trwy ddefnyddio ‘lŵp stop motion’ o angel eira’n symud, a grëwyd trwy rwygo tri deg un patrwm allan o gerdyn gwyn gyda’i ddwylo.

Dyma’r sengl: