Mae’r grŵp gwerin cyfoes o’r gogledd, 9 Bach wedi cyhoeddi manylion y diweddaraf o’u gigs digidol o adref, yn ogystal â gig rhithiol o leoliad The Live Room at Saltaire yn Bradford.
Yn ystod y cyfnod cloi, mae 9 Bach wedi perfformio gigs ‘Bach’ rhithiol yn rheolaidd, a bydd modd gwylio’r diweddaraf o’r gigs yma o gartref Lisa Jên a Martin Hoyland ar nos Iau 16 Gorffennaf. Dyma fydd y seithfed gig o’r gyfres.
Mae’r gigs yn rai aml-gamera sy’n cael eu ffrydio’n fyw, ac mae’r grŵp yn rhoi’r dewis i bobl sy’n gwylio gyfrannu at elusen wrth wneud hynny.
Ar gyfer y gig diweddaraf, bydd unrhyw arian sy’n cael ei godi’n mynd at elusen ‘Refuge’ sy’n cynnig gwasanaeth yn cefnogi dioddefwyr trais yn y cartref.
Mae’r grŵp hefyd wedi datgelu manylion gig rhithiol arall fydd yn cael ei gynnal yn lleoliad The Live Room at Satire ar nos Wener 7 Awst.
Mae modd archebu tocynnau ar gyfer y gig arbennig yma am £10 ar wefan The Live Room nawr, ac mae 9 Bach hefyd yn rhedeg cystadleuaeth i ennill tocynnau ar eu tudalen Facebook nes dydd Mercher 8 Gorffennaf.