Gig Gŵyl Calan Gigs Tŷ Nain

Mae criw o gerddorion cyfarwydd iawn wedi mynd ati i greu menter newydd fydd yn llwyfannu gigs dan y faner ‘Gigs Tỳ Nain’.

Bydd y cyntaf o’r gigs newydd yn cael ei gynnal yn rhithiol ar ddydd Calan gyda lein-yp sy’n sicr yn denu dŵr i’r dannedd – Alffa, Malan, Gwilym ac Elis Derby.

Sgwrs gymdeithasol dros gyfrwng Zoom ym mis Hydref esgorodd ar y syniad ar gyfer y fenter sef i fynd ati i greu’r cyfle i gael gigio unwaith eto, yn hytrach na disgwyl am y cyfle.

Mae’r ethos DIY yn gryf yn y fenter, a gydag arian yn brin, maent wedi gorfod mynd ati i fod mor greadigol â phosib wrth drefnu’r gig cyntaf, gan fanteisio ar sgiliau’r trefnwyr.

Trefnwyr cyfarwydd

Ymysg y criw mae Dafydd Nant sy’n rhedeg cwmni FfotoNant ac yn gyn ddrymiwr y grwpiau Bob a Sibrydion. Yn ogystal â bod yn ffotograffydd uchel ei barch, mae Dafydd hefyd yn wneuthurwr ffilm, ac ef fydd yn gyfrifol am waith ffilmio a golygu’r gig.

Ifan Emlyn o’r grŵp Candelas, ac o gwmni recordio Drwm fydd yn gyfrifol am y sain byw ac am recordio’r gig, tra bod Rhys Grail o’r band Gwilym yn mynd i’r afael a’r gwaith dylunio a chynhyrchu fideos hyrwyddo byr.

Mae dau aelod arall o Gwilym, sef Llŷr ac Ifan, wedi mynd ati i gyfansoddi jingles hwyliog ar gyfer y gwaith hyrwyddo hefyd.

Mae’r criw hefyd wedi dibynnu tipyn ar haelioni a chefnogaeth teulu a ffrindiau wrth fynd ati i gasglu props ar gyfer set y gig, gyda’r nod o drawsnewid lleoliad y gig, sef Neuadd Mynytho, yn llwyr.

Lein-yp a hanner

Hiraeth am gigs oedd yr ysgogiad dros fynd ati i drefnu’r gig rhithiol a bydd yn cael ei ddarlledu o Neuadd Mynytho ar ddydd Calan.

Go brin fod angen cyflwyniad ar Alffa, sydd wedi creu argraff enfawr wrth gael eu ffrydio miliynau o weithiau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Dyma fydd gig cyntaf erioed Malan ar y llaw arall, er iddi ryddhau ei dwy sengl ar label Playbook eleni.

Rhyddhawyd albwm Elis Derby ar ddechrau 2020 gan greu dipyn o argraff, ac mae Gwilym wedi hen sefydlu eu hunain fel un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru.

Bydd cyfle i glywed sengl newydd Gwilym, sydd allan yn hwyrach ym mis Ionawr, am y tro cyntaf yn y gig.

Bydd y gig yn cael ei ddarlledu am 20:00 ar ddydd Calan, a hynny ar YouTube.