Mae Lewys wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal gig rhithiol arbennig ac uchelgeisiol iawn ar noson 17 Gorffennaf.
Bydd y gig yn berfformiad o albwm cyntaf y grŵp ifanc o’r gogledd, ‘Rhywbryd yn Rhywle’ a ryddhawyd ar 20 Mawrth eleni. Gyda’r dyddiad rhyddhau fwy neu lai union adeg y cloi mawr, mae’n deg dweud bod yr argyfwng COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar y cynlluniau, a bu’n rhaid gohirio gig lansio ynghyd â llawer o gynlluniau eraill.
Mae’r grŵp wedi mynd ati i hyrwyddo’r albwm mewn sawl ffordd amgen yn ystod cyfnod y cloi, gan gynnwys ymgyrch werthu crysau T ac ambell fideo sesiwn ar gyfer caneuon unigol. Ond mae’n siŵr taw’r gig rhithiol hwn, fydd yn cael ei ddarlledu’n fyw o Neuadd Ogwen ym Methesda ar wefan AM, ydy’r cynllun mwyaf uchelgeisiol.
Gig rhithiol go iawn
“Er ein bod ni wedi ymdrechu i hyrwyddo’r albwm yma o bell dros y misoedd diwethaf [drwy ryddhau sesiynau byw ac ati…], mae hi ‘di bod yn sbel go hir ers i ni allu dod at ein gilydd a chwarae’n gall, felly dani’n edrych ‘mlaen i fynd nôl ati” meddai Lewys Meredydd, canwr a gitarydd y grŵp.
“Wrth drefnu’r digwyddiad ‘ma, roedden ni eisiau sicrhau ei fod o’n fwy na ‘livestream’, ond gig rhithiol, gyda safon cynhyrchu proffesiynol.
“Mae o’n rywbeth sydd heb gael ei wneud hyd yn hyn yng Nghymru rili, felly dani isio gwneud yn siŵr ei fod o’n reit sbeshal.”
Bydd modd gwylio’r digwyddiad yn ddi-dal, ond fel gyda sawl gig rhithiol sydd wedi eu cynnal ar Facebook yn ystod y cyfnod cloi, bydd modd cyfrannu ‘rhodd’ fel gwerthfawrogiad i’r artist ar cwmni cynhyrchu os ydych yn ei fwynhau.
Bydd Elis Derby hefyd yn perfformio set fel rhan o’r digwyddiad a’r gobaith ydy bydd hyn yn arwain at fwy o gigs rhithiol gan artistiaid o Gymru dros y misoedd nesaf.
Mae’r gig yn brosiect ar y cyd rhwng y rheolwr cynhyrchu profiadol, Aled Ifan, a rheolwr label Recordiau Côsh, Yws Gwynedd.
‘Mae’n gyfnod anodd i’r diwydiant cerddoriaeth yn rhyngwladol ar y funud” meddai datganiad gan Aled Ifan ac Yws Gwynedd.
“Mae cerddorion yn dibynnu gymaint ar berfformio’n fyw a dydi hynny just ddim yn bosibl. Bydd ‘gig rhithiol’ wrth gwrs ddim yr un peth a mynd i un go iawn, ond, dani’n gobeithio – gyda safon y cynhyrchiad – fydd o’n llenwi’r bwlch tan fyddwn ni’n medru mynychu gigs yn gorfforol eto.”
Cadwch olwg am newyddion diweddaraf y gig ar y digwyddiad Facebook.