Mae setiau a gigs rhithiol wedi bod yn bethau cyffredin iawn ers dechrau’r cyfnod clo wrth i artistiaid geisio llenwi bwlch gigs ‘go iawn’.
Ond nid llawer o’r rhain sydd wedi bod yn gigs gwirioneddol fyw, gyda chyfle i wylio ar y pryd neu ddim o gwbl.
Dyna’n union fydd yn digwydd nos Fercher yma, 14 Hydref wrth i gyfres gerddoriaeth S4C, Lŵp ffrydio gig yn hollol fyw ar-lein.
Candelas ac I Fight Lions fydd yn perfformio yn y gig ‘Stafell Fyw’ cyntaf, a hynny o leoliad gigs go iawn, sef Neuadd Ogwen ym Methesda.
Yn wahanol i’r mwyafrif o setiau byw sydd wedi bod yn cael ei gwe-ddarlledu dros y misoedd diwethaf, un cyfle’n unig fydd i weld y gig yma ar-lein a hynny’n fyw, am 19:30 nos Fercher.
Mae’n debyg bydd cyfle i brynu fideo o’r gig ar ôl y perfformiad i’r rhai sy’n cofrestru ymlaen llaw.
Mae modd ymateb i RSVP ar wefan Stafell Fyw er mwyn cael gwylio’r darllediad, ac wrth wneud hynny bydd cyfle i ryngweithio a chymryd rhan, yn ogystal â chael mynediad i ddarllediad byw ychwanegol.