Gobaith ar Ddiwedd (Y Byd)

Er gwaetha’r teitl, sengl obeithiol ydy un ddiweddaraf Geraint Rhys sydd allan heddiw, 26 Mehefin.

‘Diwedd (Y Byd)’ ydy enw’r trac diweddaraf gan yr artist o Abertawe, sy’n adnabyddus am ei waith fel canwr protest ac sy’n aml â negeseuon cryf yn llifo trwy ei ganeuon. Yn sicr mae hynny i’w weld ar ei sengl newydd hefyd.

Fel nifer o draciau sy’n cael eu rhyddhau ar hyn o bryd, mae’r sengl newydd wedi’i dylanwadu’n drwm arni gan gyfnod y cloi mawr, ac fe ysgrifennodd Geraint ‘Diwedd (Y Byd)’ yn ei ystafell wely yn ystod y cyfnod yma.

Mae’n gân egnïol, ond hefyd chwerw-felys sy’n adlewyrchu ar yr unigrwydd mae cyfnod y cloi wedi’i greu, a sut all hyn effeithio ar berthynas pobl â’i gilydd yn y dyfodol.

“‘Mae bod dan glo wedi effeithio ar y byd mewn cymaint o ffyrdd” meddai Geraint Rhys.

“Gan fod pawb wedi’u gwahardd i weld eu teuluoedd ar hyn o bryd, mae’r trac yn adlewyrchiad o’r teimladau hynny.

“Un munud gallwn deimlo’n dda iawn a’r nesaf ddim cymaint, ac er bod y teitl ychydig yn llym, mae’r gerddoriaeth yn llawer mwy calonnog ac egniol a mae’r gân yno i’n gwneud ni ddawnsio ac edrych ar yr amseroedd eithafol sydd ohoni.”

Mae Geraint yn tueddu i gyhoeddi fideos pwerus i gyd-fynd â’i senglau – gwelwyd hynny gyda’i sengl Cymraeg diweddar, ‘Dilyn‘ a ‘Ta Ta Tata‘. Er gwaethaf y cyfyngiadau diweddar mae wedi llwyddo i fynd ati i ffilmio fideo unwaith eto ar gyfer ‘Diwedd (Y Byd)’.

“Mae’r profiad o ysgrifennu, recordio a ffilmio fideo cerddoriaeth yn fy ystafell wely wedi bod yn llawer o hwyl ac yn bendant wedi fy ngorfodi i fod yn greadigol” meddai’r cerddor.

“…ond rwy’n credu bod hon yn foment wirioneddol gadarnhaol a chwyldroadol i bob cerddor i fod mwy yn annibynnol.”