Gohirio Gŵyl Focus Wales nes 2021

Mae gŵyl gerddoriaeth ryngwladol FOCUS Wales yn Wrecsam wedi cyhoeddi na fydd yr ŵyl yn digwydd yn ystod 2020 o gwbl.

Roedd yr ŵyl i fod i ddigwydd yn wreiddiol ar yr amser traddodiadol, sef ym mis Mai, ond fe gyhoeddwyd y byddai’n rhaid ail-drefnu a’i chynnal ym mis Hydref yn lle hynny o ganlyniad i’r argyfwng COVID-19.

Yn anffodus, erbyn hyn wrth i argyfwng y pandemig barhau, mae’r trefnwyr wedi penderfynu nad oes dewis ond ei gohirio eto nes 2021.

Y dyddiad newydd bellach ydy 7-9 Hydref 2021.

Penderfyniad anodd

“Mae FOCUS Wales yn anelu at fod yn ddigwyddiad sy’n gynhwysol, hygyrch ac yn ofod diogel ar gyfer ein cymuned gyfan o berfformwyr, siaradwyr, ymwelwyr a staff lleol, cenedlaethol a rhyngwladol” meddai datganiad gan y trefnwr.

“Gan ystyried hyn, ac o ganlyniad i barhad y pandemig COVID-19, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i ohirio’r 10fed FOCUS Wales nes 7-9 Hydref 2021.

“Dyma’r peth olaf oedden ni eisiau gwneud, ond yn anffodus rydym yn teimlo mai dyma’r unig opsiwn cyfrifol ar hyn o bryd, gan mai iechyd pawb ydy’r flaenoriaeth.

“Dyma’r tro cyntaf mewn deng mlynedd lle na fyddwn ni’n cynnal yr ŵyl, ac mae’n anodd disgrifio sut mae’r tîm yn teimlo ar hyn o bryd.

“Wedi dweud hynny, rydym yn fwy penderfynol nag erioed i sicrhau fod y degfed FOCUS Wales yn 2021 yn un arbennig iawn ac yn ddathliad teilwng.”

Artistiaid wedi’i cadarnhau

Mae’r trefnwyr wedi annog y rhai sydd eisoes wedi prynu tocynnau i’w cadw nes 2021, os oes modd iddynt wneud hynny.

Byddant yn cysylltu â phawb sydd wedi prynu tocynnau yn y man. Os nad oes modd iddynt fynd i’r ŵyl yn 2021, yna mae modd cael arian yn ôl nes 1 Awst.

Ar nodyn mwy cadarnhaol, mae holl lein-yp yr ŵyl, sy’n cynnwys enwau fel Gruff Rhys, The Joy Formidable, Tim Burgess a Buzzard Buzzard Buzzard, wedi eu cadarnhau ar gyfer y dyddiad newydd blwyddyn nesaf.

Dywed y trefnwyr y bydd ychwanegiadau i’r arlwy yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf hefyd.