Gohirio Gŵyl Sŵn 2020

Mae gŵyl gerddoriaeth ddinesig Caerdydd, Gŵyl Sŵn, wedi cyhoeddi na fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn ystod 2020.

Roedd yr ŵyl i fod i ddigwydd rhwng dydd Gwener 16 Hydref a dydd Sul 18 Hydref eleni, ond cadarnhaodd y trefnwyr, sef Clwb Ifor Bach, wythnos diwethaf na fydd modd bwrw ymlaen o ganlyniad i argyfwng COVID-19.

Adeiladu momentwm

Wrth gyhoeddi’r newydd, dywedodd y trefnwyr pa mor rhyfedd oedd hi ar hyn o bryd i beidio bod yn gwneud y pethau arferol fel rhyddhau enwau artistiaid a threfnu digwyddiadau ffrinj yr ŵyl. Gyda hynny meddent eu bod yn drist iawn i orfod cyhoeddi gohirio’r ŵyl.

“Doedden ni ddim eisiau bwrw ‘mlaen i drefnu gŵyl na fyddai’n debygol o ddigwydd ym mis Hydref, yn gadael pobl i aros am newidiadau munud-olaf” meddai’r datganiad.”

“Ni am gipio’r cyfle gorau oll i adeiladu ar y momentwm a sefydlwyd dros y ddwy ŵyl ddiwethaf gan ddarparu digwyddiad arall llawn artistiaid o ar draws y wlad, a thu hwnt. Gyda’r sefyllfa fel y mae, dydy hi ddim yn bosib i ni gyflawni gŵyl fel y hoffem, ac fel rydych chi’n disgwyl.”

Ad-daliadau

Bydd pawb sydd eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer yr ŵyl yn cael eu harian yn ôl a dywed y datganiad y bydd Ticketweb, sy’n gyfrifol am werthiant y tocynnau, yn cysylltu’n fuan i drefnu’r ad-daliadau.

Wrth wneud y cyhoeddiad mae’r trefnwyr yn dweud bydd Gŵyl Sŵn yn ôl yn 2021.

Wrth gyhoeddi’r newyddion, mae Clwb Ifor Bach yn apelio ar bobl i barhau i gefnogi lleoliadau gigs, sydd wrth gwrs i gyd ynghau ar hyn o bryd o ganlyniad i’r cloi mawr.

“Plîs parhewch i gefnogi’n gigfannau – mae angen eich cefnogaeth nawr yn fwy nag erioed” meddai’r datganiad.

“Ni fyddai Gŵyl Sŵn, a llwyth o’r gŵyliau aml-gigfan eraill ar draws y DU, yn bodoli heb y gigfannau anhygoel sydd gennym. Pan fo’r gwyliau yn dychwelyd, rhaid gwneud yn siŵr bod pob gigfan yn dychwelyd hefyd, yn barod i agor.”

Mae modd mynd i wefan Save our Venues i weld sut all pobl helpu canolfannau yn ystod y cyfnod yma.