Mae grŵp roc o Wrecsam, Alpha Chino, wedi cyfansoddi cân Gymraeg newydd er mwyn cefnogi’r ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru.
Ffurfiwyd y grŵp 4 aelod yn 2019, gan berfformio mewn sawl gŵyl dros yr haf llynedd.
Yn ôl yr aelodau mae’r ymgyrch annibyniaeth yn fater perthnasol sy’n bwysig i’r aelodau i gyd.
Enw’r trac ydy ‘Ymuno’ ac fe’i recordiwyd yn ystod y cyfnod clo.
Mae’r sengl allan yn swyddogol ar 16 Medi ar gyfer gŵyl Owain Glyndŵr ond mae modd ei chlywed ar safle Bandcamp y grŵp nawr: