Er gwaetha’r heriau, mae nifer o artistiaid wedi manteisio ar y cyfnod clo i sefydlu eu hunain. Un o’r rhan ydy Malan, a Tegwen Bruce-Deans fu’n sgwrs gyda hi ar ran Y Selar.
Roedd hi’n anodd cadw’n bositif wrth glywed clep olaf enbyd drysau gigs nôl ym mis Mawrth. Gyda dirgrynu dwfn y bas a chwrw twym gorbrisiedig ond yn dawch o freuddwyd ar y gorwel, bu’n dorcalonnus gweld cymaint o’n hartistiaid mwyaf cyffrous heddiw yn colli’r cyfle i gyflwyno ffrwyth eu creadigrwydd i’r byd yn gyfiawn.
Ac eto, nid du fu pob canlyniad o dawelwch seinydd y llwyfan.
Fesul dipyn bu sŵn yn adeiladu, nes cynyddu i fod yn floedd, yn gri, yn ddatganiad: “Yma ydwyf i.” Dyma yw’r artistiaid newydd wedi’u meithrin o lwch y cyfnod clo. Gyda saib oddi wrth normalrwydd yn rhoi cyfle i ysbrydoliaeth flaguro, efallai taw dyma oedd yr esgus roedd nifer yn disgwyl amdano i ddilyn rhyw syniad cerddorol pell. Ym mhrysurdeb normalrwydd, mor hawdd ydyw i olrhain uchelgeisiau ‘rhywbryd yn y dyfodol’. Ond dichon fod angen argyfwng i godi brys ar rywun, a thanio’r awydd i weithredu ar y breuddwydion hyn.
Ennill hyder
Wyneb newydd sydd yn sicr wedi manteisio ar greadigrwydd digynsail y cyfnod clo ydy Malan. Nid yw’r artist ifanc o Gaernarfon yn ddieithr i’r llwyfan; daeth i’r amlwg eisoes fel cantores y band Anorac, a gyrhaeddodd rownd derfynol Brwydr y Bandiau nôl yn 2018.
“Hwnna oedd y cyfla cynta geshi i berfformio gigs, a oedd perfformio ar lwyfan y Steddfod yn brofiad gwych sy’n sicr wedi helpu fi i ennill hyder wrth roi fy ngherddoriaeth allan i’r byd,” meddai Malan.
Fodd bynnag, artist unigol ydy Malan bellach – rhywbeth sydd efallai wedi bod o fudd iddi wrth ddatblygu ei delwedd gerddorol a’i gyflwyno i’r byd mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol.
“Dwi’n teimlo fel bod y gerddoriaeth dwi’n ei sgwennu rŵan yn teimlo’n fwy personol i fi, ella achos bo fi’n sgwennu’r caneuon yma ar ben fy hun yn hytrach nac efo band ac yn gallu canolbwyntio ar fy arddull fy hun.
“Dwi ‘di ffeindio’r cyfnod clo fel cyfla da i wrando ar wahanol fathau o gerddoriaeth a dod i nabod fy arddull gerddorol yn well [wrth] arbrofi efo arddulliau gwahanol.”
Ai dyma sydd wedi bod o fudd i Malan ac artistiaid newydd eraill a gychwynnodd rhyddhau cerddoriaeth mewn cyfnod lle nad yw gigs yn bosib: cael y cyfle i ddatblygu a sefydlu sŵn cyn cyflwyno’r prosiect i dorf o bobl mewn gig? Neu ai rhan annatod o ddatblygiad artist yw perfformio a gweithredu ar sail ymateb byw’r dorf?
Rhyddhawyd sengl gyntaf Malan, ‘Busy Bee’, nôl ym mis Mehefin ar label The Playbook. Mae’r alawon jazzy bachog yn britho’r trac gyda dylanwad neo-soul amlwg, gan blethu’n berffaith gyda’i geiriau melfedaidd, ysgafn sy’n dominyddu’r llwyfan.
Gydag agwedd ymlaciol sy’n hanu o’r allweddau chwareus, llwydda Malan i greu rhith o ddiymdrechiad – cynhwysyn hanfodol i’w thrac sain hafaidd. Disgrifia’i hun fel songwriter, gan osod ei hun ymysg cenhedlaeth newydd o ffigurau benywaidd cryf sy’n codi yn y byd cerddorol megis Mathilda Homer a Cleo Sol. Ac yn wir, mae ei hymdriniaeth onest â geiriau personol yn ei thraciau yn sicr yn brawf o’i dawn gerddorol i hawlio’i lle ymysg yr enwau hyn.
Cefnogaeth
Er mai dim ond ei thrac début ydy ‘Busy Bee’, cafodd ymateb cadarnhaol digynsail o bob cyfeiriad, gan gynnwys cael ei hychwanegu i’r rhestr chwarae adnabyddus New Music Friday ar Spotify.
“Mae’r ymateb i Busy Bee ‘di bod yn hollol nuts! Oni’m yn disgwl hannar gymaint o ymateb a dwi wedi cael ond ma’r holl broses ryddhau ‘di bod yn class oherwydd yr holl gefnogaeth,” meddai Malan.
“O’n i rili heb ddisgwl i gael ar y playlist New Music Friday gan Spotify ond dwi mor falch o allu deud bo fi wedi, odd o’n ddechra amazing i fy ngherddoriaeth a dwi’n rili diolchgar am y gefnogaeth.”
Gyda llawer o’r dulliau arferol o hyrwyddo cerddoriaeth ddim yn bosib eleni, caiff hyd yn oed fwy o bwyslais ei osod ar y modd mae algorithmau llwyfannau ffrydio yn medru hybu amlygrwydd artistiaid.
Yn wir, diolch i gefnogaeth rhestrau chwarae Spotify y daeth bandiau Cymraeg megis Alffa i boblogrwydd rhyngwladol hefyd. Ac efallai bod artistiaid newydd fel Malan wedi profi mwy o lwyddiant wrth ryddhau yn ystod y cyfnod clo oherwydd bod gan bobl fwy o amser i ymchwilio i restrau chwarae megis New Music Friday, er mwyn darganfod cerddoriaeth ac artistiaid newydd i wrando arnynt.
Ond â hithau’n Gymraes, mae’n anodd peidio sylwi mai senglau Saesneg ydy ‘Busy Bee’ a’i sengl ddiweddaraf, ‘Greed’. Ai ymgais i gydffurfio i’r algorithm oedd hynny gan Malan?
“O’n i’n teimlo mai [Saesneg] oedd yn siwtio’r gerddoriaeth a sŵn y caneuon fwyaf,” cyfaddefa.
“Dwi’n dueddol i fod yn sgwennu mwy o gerddoriaeth Saesneg ar y funud, ddim am unrhyw reswm penodol – just digwydd bod mai Saesneg ydy’r syniadau dwi wedi bod yn cael! Ond dwi’n rili awyddus i ddechrau sgwennu mwy o betha Cymraeg, a gobeithio pan mae’r lockdown yn llacio gai fynd i’r stiwdio i ddechrau recordio’n Gymraeg.”
Amser i newid
Diau y bydd gan Malan hen ddigon o gefnogaeth yn recordio gyda label The Playbook, a hynny o dan ofal ac arweiniad yr hyrwyddwr Yws Gwynedd.
Yn wir, trwy ei amryw labeli mae Yws yn amlwg wedi ymrwymo i geisio annog mwy o artistiaid benywaidd i gymryd rhan yn y sin Gymraeg, yn enwedig wedi i’r drafodaeth danio ynghylch tan-gynrychiolaeth benywaidd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n amlwg fod Malan hefyd yn teimlo’n angerddol dros y mater hwn.
“Dwi’n credu’n gryf bod angan annog merched i gymryd rhan yn y sîn, dwi’n meddwl bod hi’n bwysig i gynnwys mwy o ferched er mwyn cael mwy o rolemodels Cymraeg i artistiaid benywaidd.”
Ac wrth drafod gyda Malan am ei dylanwadau cerddorol, maent yn ymddangos i fod yn llawer mwy priodol i’w sŵn yn y Saesneg o gymharu â’r Gymraeg – a hynny oherwydd y rheswm syml o amrywiaeth ehangach o artistiaid benywaidd sy’n bodoli yn y Saesneg.
“Dwi’n edrych i fyny ar artistiaid Cymreig megis Gwenno, Adwaith, Eädyth ac yn y blaen, ond dwi’n meddwl bod lle i gynnwys llawer mwy o ferched yn y sin oherwydd mae cynrychiolaeth benywaidd llawer mwy eang yn y Saesneg i gymharu efo’r sin Gymraeg,” meddai.
Mae’n ymddangos fel rhyw gylch dieflig: diffyg amrywiaeth o rolemodels benywaidd yn y Gymraeg, gan annog llai o ferched i roi tro ar greu cerddoriaeth, sydd wedyn yn bwydo’n ôl i’r diffyg amrywiaeth drachefn yn y genhedlaeth nesaf. Ond mae Malan yn gobeithio y bydd hi’n rhan o’r genhedlaeth fydd yn gallu torri’n rhydd o’r hualau hyn.
“Rŵan ydy’r amsar i newid yn fy marn i, fel bod mwy o rolemodels i’r genhedlaeth nesa.”
Gyda’i sengl ddiweddaraf ‘Greed’ wedi’i rhyddhau gwpl o wythnosau’n ôl, y gobaith yw bod EP a gigs ar y gweill yn y dyfodol agos gan Malan. Dim ond am gyfnod byr y mae hi wedi cyfareddu’r tonfeddi hyd yn hyn, ond mae dyfodol y wenynen brysur hon yn addo bod yn un cyffrous yn barod.
Geiriau: Tegwen Bruce-Deans