Gwen Màiri ar restr gwobr Albanaidd

Mae albwm y gantores werin Gymraeg-Albanaidd, Gwen Màiri wedi’i gynnwys ar restr hir ‘Albwm Traddodiadol y Flwyddyn’ yn Yr Alban.

Ar ôl cyd-weithio gyda nifer o artistiaid eraill dros y blynyddoedd, rhyddhaodd Gwen ei halbwm unigol cyntaf, ‘Mentro’, ym mis Hydref 2019.

Mae’r wobr yn cael ei dyfarnu gan y gwasanaeth darlledu Gaeleg, MG Alba ac mae albwm Gwen ar y rhestr hir o 30 albwm eleni.

Mae modd i’r cyhoedd bleidleisio dros eu ffefryn o’r rhestr hir, a bydd rhestr fer yn cael ei chyhoeddi ar 3 Tachwedd.