Gwenno’n rhyddhau traciau bonws Y Dydd Olaf

Mae Gwenno wedi rhyddhau casgliad o draciau bonws ac ailgymysgiadau o ganeuon Y Dydd Olaf ar ei safle Bandcamp.

Y Dydd Olaf oedd albwm llawn cyntaf Gwenno, ac fe’i rhyddhawyd yn wreiddiol ar label Peski yn 2014 cyn ei ail-ryddhau ar label enwog Heavenly Recordings yn 2015.

Roedd yn llwyddiant ysgubol wedi hynny, gan gipio teitlau’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig ac Albwm Cymraeg y Flwyddyn ar gyfer 2015.

Roedd Bandcamp yn rhoi eu holl elw ddydd Gwener diwethaf  (19 Mehefin) i NAACP (The National Association for the Advancement of Colored People), a phenderfynodd Gwenno i ryddhau’r casgliad o draciau ychwanegol i gyd-fynd â hynny.

Mae’r casgliad o draciau’n cynnwys fersiynnau o ganeuon yr albwm wedi’u hail-gymysgu gan R. Seiliog, ISLET, TOY, Plyci ac Andrew Weatherall. Mae hefyd yn cynnwys y traciau bonws ‘Nefolaidd’ (cyfyr o drac Malcolm Neon), ‘Anthem y Weriniaeth Newydd’, ‘A B C CH D’ a ‘Glanyrafon’.

Rhestr traciau llawn:

  1. Nefolaidd (cyfyr Malcolm Neon)
  2. Anthem y Weriniaeth Newydd
  3. A B C CH D
  4. Glanyrafon
  5. Chwyldro (ail-gymysgiad R. Seiliog)
  6. Golau Arall (ail-gymysgiad Islet)
  7. Fratolish Hiang Perpeshki (ail-gymysgiad TOY)
  8. Patriarchaeth (ail-gymysgiad PLYCI)
  9. Chwildro (ail-gymysgiad Andrew Weatherall)