Gwir Ystyr y Nadolig eleni – weirdrwydd

Mae’r grŵp newydd Ystyr wedi rhyddhau eu sengl Nadolig ‘Dolig Weird’.

Roedd cyfle i ddysgu bach mwy am hanes y triawd newydd mewn darn estynedig diweddar ar wefan Y Selar.

Tri aelod y grŵp ydy  Rhys Martin o’r grŵp Plant Duw, ei gefnder Owain Brady, a Rhodri Owen, gynt o Yucatan a Cyrion ac maent wedi rhyddhau cyfres o senglau yn ystod 2020.

Mae’r ddiweddaraf yn drac Nadolig sydd yn briodol iawn ar gyfer yr ŵyl eleni, sy’n mynd i fod yn un rhyfedd ar y naw.

Mae’r sengl allan rŵan ar safle Bandcamp Ystyr.