Llongyfarchiadau mawr i’r cyfeillion yng Ngŵyl Canol Dre sydd wedi cipio gwobr wythnos diwethaf.
Enillodd yr ŵyl flynyddol, sy’n cael ei chynnal yng Nghaerfyrddin, Gŵyl Canol Dre, wobr yng ngwobrau Mentrau Iaith Cymru.
Cynhaliwyd y noson wobrwyo yn y Marine, Aberystwyth nos Fercher diwethaf (22 Ionawr) a cipiodd yr ŵyl y wobr am y categori ‘ ‘Cydweithio â phartner’.
Mae lle amlwg i gerddoriaeth gyfoes yn yr ŵyl gyda Candelas, Gwilym a Fflur Dafydd ymysg yr artistiaid oedd yn perfformio yno fis Gorffennaf diwethaf, ac mae Y Selar yn un o brif bartneriaid yr ŵyl.