Y grŵp o Gaerfyrddin, Adwaith, ydy’r diweddaraf i dderbyn ‘Gwobr Gerddorol Llwybr Llaethog’.
Ers rhyw chwe blynedd bellach, fel arfer o gwmpas dyddiad Dydd Gŵyl Dewi, mae John a Kevs, aelodau’r grŵp dub / electroneg / rap, Llwybr Llaethog, wedi bod yn dyfarnu eu ‘Gwobr Gerddorol’ i rywun am eu cyfraniad arbennig i gerddoriaeth Gymreig.
Mae’r enillydd yn derbyn gwobr wedi ei chreu gan John a Kevs eu hunain, a dros y penwythnos fe gyhoeddwyd ar gyfrif Twitter Llwybr Llaethog mai’r triawd ôl-bync o’r Gorllewin, Adwaith, oedd yr enillwyr eleni.
Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys Serol Serol llynedd, Mr Phormula (2018), Meic Sbroggs (2017), Dau Cefn (2016), Y Pencadlys (2015) a Rhys Jakokoyak (2014).
Mae Adwaith wedi mynd o nerth i nerth ers dechrau dod i’r amlwg yn 2016. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, Melyn, yn 2018 ac fe gipiodd y grŵp y Wobr Gerddoriaeth Gymreig am yr albwm hwnnw ym mis Tachwedd 2019.