Gwobrwyo Gruff

Cafwyd noson arbennig i ddathlu cyfraniad y cerddor Gruff Rhys i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn Aberystwyth neithiwr.

Dyma oedd digwyddiad agoriadol penwythnos Gwobrau’r Selar eleni, ac roedd yn ffordd ddelfrydol i ddechrau’r dathliadau

Ers sawl blwyddyn bellach, mae’r gwobrau wedi cynnwys gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ sy’n cael ei rhoi i artist penodol sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig dros gyfnod hir o amser. Eleni, cyn ffryntman Ffa Coffi Pawb a Super Furry Animals, sydd erbyn hyn hefyd yn artist unigol llwyddiannus, Gruff Rhys oedd enillydd y wobr.

Cynhaliwyd noson yn Stiwdio Canolfan y Celfyddydau neithiwr i nodi hyn, gyda chyflwynydd Radio Cymru a Radio 1, Huw Stephens, yn holi Gruff am ei yrfa, gyda detholiad o ganeuon gan Gruff hefyd. Cynulleidfa fach, ecsgliwsif, oedd i’r noson ac roedd pawb wrth eu bodd.

Pleidlais gyhoeddus sy’n dewis gweddill enillwyr Gwobrau’r Selar, ond mae’r wobr ‘Cyfraniad Arbennig’ yn eithriad lle mae tîm golygyddol y cylchgrawn yn dewis yr enillydd. Yr enillwyr blaenorol ydy Datblygu, Geraint Jarman, Heather Jones ac un ar y cyd i Mark Roberts a Paul Jones (Y Cyrff/Catatonia/Y Ffyrc) y llynedd.

Triw i’r iaith

“Heb os, mae Gruff yn un o gerddorion Cymraeg pwysicaf ei genhedlaeth, ac yn wir unrhyw genhedlaeth” meddai Owain Schiavone, trefnydd Gwobrau’r Selar.

 “Mae o wedi llwyddo i oroesi’n gerddorol ers y 1980au, gan ymestyn ei gerddoriaeth ymhell tu hwnt i Gymru fach. Trwy hynny mae bob amser wedi bod yn driw i’r iaith ac wedi cenhadu dros y Gymraeg mewn ffordd gynnil ond effeithiol.”

“Dwi’n weddol sicr bod Gruff wedi dylanwadu ar lawer o’n cerddorion ifanc heddiw, a’i fod yn hynny wedi chwarae rôl bwysig yn natblygiad y sin Gymraeg gyffrous sy’n bodoli ar hyn o bryd.”

Ar roedd Gruff yn falch iawn o gael ei gynnwys ar y rhestr ddethol o enillwyr y wobr.

“Mae’n gryn fraint i gael fy enwi ymysg arwyr ” meddai’r cerddor amryddawn.

Yn ystod y sgwrs gyda Huw Stephens bu i Gruff fwrw golwg nôl ar ei yrfa gan adrodd nifer o straeon difyr a doniol, ynghyd â pherfformio caneuon amrywiol yn ei ffordd ddi-hafal.

Cyflwynwyd y wobr ar ddiwedd y noson gan Abigail Fraser, sef yr artist sy’n gyfrifol am greu’r tlysau ar gyfer Gwobrau’r Selar eleni. Mae Abigail yn astudio cwrs celf gain yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a hwy oedd yn noddi’r wobr Cyfraniad Arbennig eleni.

Bydd cyfle i glywed rhannau o’r noson ar raglen Byd Huw Stephens ar BBC Radio Cymru nos Iau nesaf, 20 Chwefror.

 

Llun: Gruff yn derbyn y wobr (Ffotograffydd: Elis Roberts)