Tegwen Bruce-Deans sy’n bwrw golwg nôl ar fersiwn digidol o Ŵyl Car Gwyllt dros y penwythnos…
Mae pawb yn dweud bod hi’n bwrw glaw ym Mlaenau Ffestiniog.
Ond er gwaethaf geiriau’r hen gân gyfarwydd, nid ffawd anffodus Maes B 2019 oedd yn peri i’r anfarwol Ŵyl Car Gwyllt cael ei ohirio’r flwyddyn hon.
Wrth gwrs, mae’r gerddoriaeth flynyddol ar goll o aelwyd Clwb Rygbi Bro Ffestiniog eleni o ganlyniad i fesurau diogelwch y pandemig.
Fodd bynnag, doedd hyd yn oed un o argyfyngau iechyd mwyaf ein cenhedlaeth ddim am atal criw’r ŵyl rhag dod â blas ohoni i’n sgriniau yn lle’r digwyddiad byw.
Cyfoeth
Roedd lein-yp yr ŵyl arfaethedig eleni yn un cyfoethog, ac ni siomwyd gan y blasau amrywiol oedd yn chwarae gyda synhwyrau’r gwrandawyr yn ddigidol chwaith. Bu hen ffefrynnau amlwg megis Phil Gas a’r Band a Gwibdaith Hen Fran yn rhoi gwledd gyfarwydd i’r glust, ac yn sicr un o’r uchafbwyntiau cerddorol oedd fersiwn pwerus Gwilym Bowen Rhys o glasur Huw Jones, ‘Dŵr’.
Mae llais unigryw Gwilym yn offeryn ei hun, ac mae ei driniaeth angerddol a chras o’r alawon wedi cyplysu gyda’r geiriau o anghyfiawnder yn ddigon i godi ias ar unrhyw un.
A braf oedd gweld yr ŵyl yn dal i ymdrechu i roi llwyfan i leisiau ifanc newydd hefyd, hyd yn oed ar ei gwedd ddigidol newydd.
Er ei hieuenctid, roedd hyder cryf yn cario tôn llyfn y gantores leol Mared Jeffreys dros fynyddoedd bro Ffestiniog wrth iddi berfformio fersiwn acwstig o gân adnabyddus Elin Fflur, ‘Harbwr Diogel’. Mae hon yn sicr yn dalent gyffrous i gadw llygad allan amdani.
Amrywiaeth
Nid dim ond amrywiaeth o ran artistiaid oedd i’w chael chwaith, ond casgliad eclectig o eitemau hefyd.
Yn wir, roedd yna dal sawl berfformiad yn glynu’n driw i’r ffurf ffrydio newydd; dewis Bwncath oedd casglu fideos o wahanol leoliadau aelodau’r band i greu sŵn cyflawn, tra bod ffryntman Alffa, Dion, yn dehongli fersiwn unawdol o’u trac ‘Pla’ ar ei gitâr acwstig yn lle.
Fodd bynnag cafwyd hefyd ambell i berfformiad mewn arddull fideo cerddoriaeth, fel gan Kim Hon a 3 Hŵr Doeth. Fel artistiaid mor weledol, gyda theatr a’r perfformiad cyn bwysiced â’r sŵn ei hun, roedd y rhain yn elwa o’r cyfle a’r rhyddid creadigol roedd yr ŵyl yn cynnig iddynt ar blatfform digidol.
‘Seicadelig’ yw gair sy’n cael ei ddefnyddio llawer i ddisgrifio sŵn Kim Hon, ac yn wir dyma’n union oedd yr effaith a lwyddodd yr effeithiau camera golygyddol i fwyhau – a hynny hyd yn oed mewn saethiadau cyffredin a oedd yn meddu ar ryw rinwedd home-video, yn briodol i awyrgylch y cyfnod clo.
Creu awyrgylch
Mae technoleg ffrydio’n fyw wedi bod yn werthfawr i’r sector gelfyddydau yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig am ei bod hi’n gallu llwyddo i greu awyrgylch amrwd yn debyg i gigs byw. Ond wrth gasglu’r fideos yn y modd golygyddol maent wedi gwneud, llwyddodd Gŵyl Car Gwyllt i gynnal ansawdd safonol o glipiau heb y gronfa ariannol fawr sydd wedi helpu gwyliau eraill fel Tafwyl gynhyrchu perfformiadau proffesiynol amser-real.
Daeth yr ŵyl mewn cylch erbyn iddi dynnu i derfyn, gan agor gyda pherfformiad unawdol Gai Toms a chyrraedd diweddglo priodol gyda fideo cerddoriaeth o anthem Anweledig, a Blaenau, ‘Dawns y Glaw’. Wrth i hwyl gwirion y dawnsio godi calon, cododd hiraeth hefyd am ddychwelyd yn ôl i fro Ffestiniog blwyddyn nesaf am Car Gwyllt yn y cnawd unwaith eto.
Wir i chi, mae’n hi’n braf o hyd ym Mlaenau Ffestiniog.
Gwyliwch yr ŵyl isod: