Gŵyl Neithiwr i’w chynnal yng Nghaerdydd

Bydd yr ail Wyl Neithiwr o’r flwyddyn yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 21 Mawrth.

Ym mis Ionawr cynhaliodd y criw sydd wedi bod yn gyfrifol am drefnu gigs ‘Noson Neithiwr’ ym Mangor Uchaf ŵyl yng nghanolfan Pontio, Bangor gyda lein-yp oedd yn dod â dŵr i’r dannedd.

Nawr maent yn cyd-weithio gyda Chlwb Ifor Bach i gynnal digwyddiad tebyg yn y ganolfan amlwg yng Nghaerdydd fis Mawrth gyda lein-yp arall hynod o drawiadol.

Yr artistiaid sy’n perfformio yn y gig ydy Los Blancos, Pasta Hull, Pys Melyn, Twmffat, SYBS a Radio Rhydd ac mae tocynnau ar werth ers bore Llun 17 Chwefror.