Rydym wedi gweld sawl gŵyl yn troi at y cyfryngau digidol eleni am resymau amlwg – rhai yn fwy llwyddiannus nag eraill. Y ddiweddaraf i wneud hynny oedd Gŵyl Newydd, a Tegwen Bruce-Deans fu’n gwylio, ac yn cloriannu ar ran Y Selar.
Ers i ddyddiau’r caeau mwdlyd a phonshôs glaw dynnu i derfyn dros nos, bu rhaid i fynychwyr gwyliau ffyddlon fodloni ar wylio cynnyrch yr haf drwy sgriniau eu ffôn.
Gwelwyd llwyddiant gan rai o uchafbwyntiau’r haf megis Tafwyl, wrth iddynt fabwysiadu dulliau amgen o ffrydio’r ŵyl i gartrefi’r genedl ar blatfform digidol AM. Yn wir, wedi i adborth cadarnhaol Tafwyl, codwyd gofidion am sut y gall gwyliau eraill llai dilyn y fath llwyddiant – a hynny â chyfran bitw o arian mewn cymhariaeth i’w cynorthwyo.
Un ŵyl sydd wedi cychwyn gwneud ei enw fel diweddglo i’r haf ydy Gŵyl Newydd yng Nghasnewydd, ac er gwaethaf y sefyllfa sydd ohoni roedd y trefnwyr yn benderfynol o’i gweld yn parhau’n ddigidol eleni. Gan ddilyn ôl troed Tafwyl a defnyddio AM fel llwyfan rhithiol i’r ŵyl ddydd Sadwrn diwethaf – yn hytrach na’u cartref arferol yng Nghanolfan Gelfyddydau Glanyrafon – roedd cymharu’r ddwy ŵyl am fod yn weithred anochel gan y gynulleidfa.
Fodd bynnag, yn lle edrych ar Tafwyl fel rhyw uchelfan pellgyrhaeddol ym myd y gwyliau celfyddydol digidol, daeth i’r amlwg yn syth wedi i Ŵyl Newydd lansio mai tynnu ysbrydoliaeth oddi wrth Tafwyl a wnaeth trefnwyr yr ŵyl lai. Yn hytrach na buddsoddi gormod o amser mewn creu cynhyrchiad proffesiynol drud fel Tafwyl, canolbwynt a rhinwedd mwyaf pefriol Gŵyl Newydd oedd ei gynnwys eclectig, ystyrlon, ac yn bwysicach fyth, cyfoes.
Yn amlwg, ni ellir fod yn fwy cyfoes na thrafod effaith pandemig Covid-19 ar fyd y celfyddydau Cymreig. Wedi’i lleoli’n briodol ar Zoom, dyma oedd ymbarél trafodaeth ddifyr rhwng criw Sôn am Sîn ac arweinwyr rhai o labeli recordiau amlycaf y sin ar hyn o bryd: Yws Gwynedd (Côsh), Mei Gwynedd (JigCal), Gwennan Gibbard (Sain) a Gruff Owen (Libertino). Er gwaethaf enbydrwydd amlwg y sefyllfa i’r celfyddydau, roedd hi’n braf clywed y panel yn sgwrsio’n ddadansoddol a myfyriol yn hytrach na phwysleisio’n ormodol ar ddigalondid. Dyma oedd un o lwyddiannau amlwg Gŵyl Newydd, yn enwedig o ystyried iddi fod yn ŵyl gymharol lai nag eraill – trafodaethau blaengar a newydd, yn hytrach nag ailgylchu’r un hen gynnyrch wedi’u treulio gan wyliau mwy yn barod.
Gwthio ffiniau
Braf hefyd oedd clywed y rheolwyr i gyd yn edrych at gynnydd y dyfodol, sef rhywbeth y gwnaeth Gruff Owen o label Libertino ehangu arno ymhellach yn ei gyfweliad gyda Siarad Siop draw yn y Cornel Clonc. Pan mae rhywun yn meddwl am Libertino, nid cerddoriaeth draddodiadol y SRG sydd bob tro’n dod i’r meddwl. Gyda chydnabyddiaeth ryngwladol i fandiau megis Adwaith, mae Gruff eisoes yn gwthio cerddoriaeth Gymraeg tu hwnt i ffiniau cyfyngedig y wlad. Fodd bynnag, megis dechrau ydy arloesi amgen Libertino, a chafwyd neges obeithiol am ddyfodol y label gan Gruff wrth iddo osod pwyslais ar bwysigrwydd gwthio ffiniau artistiaid fel unigolion er mwyn ysgogi ehangu cenedlaethol.
Yn wir, ymddangosodd y thema o wthio ffiniau a’r berthynas rhwng unigolyn a bro ei febyd cryn dipyn ymhlith trafodaethau paneli’r ŵyl. Mewn sgwrs ddifyr rhwng yr artistiaid Angharad Franziska, Aur Bleddyn a Rhianwen Williams, bu trafodaeth ynghylch arwyddocâd yr iaith y cynhyrchir celf ynddi. Megis celf Cymraeg, mae cerddoriaeth Gymraeg hefyd yn elwa o amrywiaeth o gyfranwyr; mae hwn yn cynyddu’r galw am gynnyrch Cymraeg ei hiaith, sydd wedyn yn adeiladu sail ehangach i’r celfyddydau Cymraeg ffynnu ohoni yn y dyfodol.
Naws cartrefol
Yn ogystal â phaneli celfyddydol difyr, mi wnaeth Gŵyl Newydd hefyd groesawu perfformiadau cerddorol arbennig gan ddau grŵp: Sorela a Mellt. Un o fanteision mwyaf cynnal gŵyl rhithiol yw’r amlygiad mae’r llwyfan digidol yn rhoi i artistiaid llai adnabyddus. Mewn gŵyl arferol efallai na fyddai cystal cynulleidfa wedi bod yn dyst i harmonïau hudolus Sorela, wrth iddynt gael eu colli ym mhrysurdeb yr amserlen. Fodd bynnag, yma roedd modd canolbwyntio’n uniongyrchol ar ddawn y triawd yn eu haddurniadau acapelaidd wrth iddynt hawlio’r platfform digidol i’w hun. Roedd naws cartrefol a low-fi i’r set wrth iddynt gynnwys ambell gamgymeriad diniwed, sy’n crisialu’n berffaith yr ymdeimlad o berthyn a chymuned a flagurodd yn ystod y cyfnod clo.
Parhaodd yr awyrgylch hwn yn set Mellt hefyd, er gwaethaf cerddoriaeth gyferbyniol y ddau grŵp. Efallai mai risg oedd hi i wahodd un o’r bandiau fu’n perfformio yn Nhafwyl eleni i gloi prynhawn yr ŵyl, oherwydd y peryg o’ gymharu safonau’r cynhyrchu. Serch hynny, gan eu bod wedi recordio’r set yn eu tŷ, roedd modd dal mwy o bersonoliaeth y bechgyn yn ystod eu perfformiad – rhywbeth nad yw’n hawdd ei gynnal trwy sgrin fel arfer.
Yn wir, roedd yr awyrgylch glos a phersonol yn tanio hen atgofion o wylio Mellt yn perfformio yn nhafarn Cwrw yng Nghaerfyrddin, yn enwedig wrth gyfuno hynny gyda’r canu angerddol yn niweddglo ‘Planhigion Gwyllt’ ar ddiwedd y perfformiad. Diau ei bod hi’n anodd i’r band beidio anobeithio yn ystod y cyfnod hwn, a hwythau hanner ffordd trwy recordio’u hail albwm pan ddaeth y cyfyngiadau i rym. Fodd bynnag, mae perfformiadau fel hyn yng Ngŵyl Newydd yn sicr wedi cynorthwyo i adeiladu momentwm a chyffro at bosibiliadau’r dyfodol agos i’r band. Dyma oedd diweddglo calonogol priodol yr ŵyl ddigidol hon, a gobeithio fod cynnal y digwyddiad ar blatfform rhithiol ehangach yn annog mwy o fynychwyr ffyddiog i bacio’u ponshôs glaw blwyddyn nesaf er mwyn heidio go iawn draw i Gasnewydd.