Fel cymaint o wyliau eraill, ni fydd gŵyl gerddoriaeth fwyaf Cymru – Gŵyl y Dyn Gwyrdd – yn digwydd yn ei ffurf arferol eleni.
Yn hytrach na hynny, bydd yr ŵyl yn llwyfannu digwyddiad rhithiol o’r enw ‘Field of Streams’ ar-lein i geisio llenwi rhywfaint ar y bwlch.
Cynhelir y digwyddiad penwythnos nesaf, sef 22 a 23 Awst, gyda setiau newydd gan yr artistiaid Father John Misty, Eels, Stella Donelly ac, o ddiddordeb arbennig i ni, yr ardderchog Adwaith.
Yn wahanol i nifer o’r sesiynau a gigs rhithiol dros y misoedd diwethaf, bydd y setiau yma ddim ond i’w gweld yn fyw ar y pryd.
Yn ogystal â’r artistiaid cerddorol, mae’r ŵyl wedi comisiynu sioeau gan artistiaid celf perfformiadol eraill gan dalentau Cymreig sy’n cynnwys Krystal Lowe, Hijinx, Kitsch & Sync, Pocket Rocket Productions, Wheelabouts, Light, Ladd and Emberton, Kris Hubble a 9 Foot Stories.
Bydd perfformiad arbennig hefyd gan Pictish Trail ar yr Isle of Eigg, yn ogystal â dangosiad digidol cyntaf arbennig o’r ffilm White Riot gan Rubika Shah sy’n dilyn y symudiad Roc yn Erbyn Hiliaeth (Rock Against Racism) yn y 1970au.
Cyhoeddi enillydd
Bydd yr ŵyl hefyd yn cynnal ffeinal y gystadleuaeth ‘Green Man Rising’ sydd wedi gweld 1800 o fandiau’n ymgeisio a 40,000 o bleidleisiau ar-lein yn cael eu bwrw.
Bydd arbenigwyr yn y diwydiant cerddoriaeth yn dewis yr enillydd fydd yn cael slot yn yr ŵyl nesaf, ynghyd â £750 o arian datblygu. Bydd yr enillydd yn cael ei ddatgelu ar raglen BBC Radio Wales Adam Walton am 10:00 ar noson 22 Awst.
Bydd y digwyddiad rhithiol yn cael ei ddarlledu’n fyw, ac yn rhad ac am ddim ar dudalennau Facebook, YouTube a Mixcloud Gŵyl y Dyn Gwyrdd ar 22 a 23 Awst.