Gŵyl y Llais 2020

Mae Canolfan y Mileniwm Caerdydd wedi cyhoeddi bydd Gŵyl y Llais – gŵyl gelfyddydau rhyngwladol arbennig Canolfan Mileniwm Cymru – yn dychwelyd i Fae Caerdydd ar benwythnos olaf mis Hydref 2020 gyda fformat newydd. 29 Hydref-1 Tachwedd 2020 fydd y dyddiadau eleni.

Am bedwar diwrnod, bydd cyfle i gynulleidfaoedd yn cael mwynhau gwledd o berfformiadau a digwyddiadau yn arddangos popeth y gall y llais ei wneud, a pha mor bwysig yw cael un. Bydd gan bobl y dewis o brynu bandiau garddwrn ar gyfer un diwrnod yn unig neu ar gyfer yr ŵyl gyfan, fydd yn rhoi mynediad i dros 60 o berfformiadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a Portland House, sydd o fewn ychydig funudau ar droed oddi wrth ei gilydd.

Y newyddion mawr arall sydd wedi’i ddatgelu ydy bod y gantores Cate Le Bon yn gyfrifol am guradu rhan o raglen yr ŵyl eleni, a bydd hefyd yn perfformio fel rhan o’r  gweithgareddau.

Digwyddiad blynyddol

Bydd y rhestr lawn o berfformiadau’n cael eu cyhoeddi yn yr haf, ac mae addewid o gerddoriaeth fyw anhygoel, perfformiadau fydd yn procio’r meddwl, a sgyrsiau ysbrydoledig fydd yn trochi’r gynulleidfa mewn corws byd-eang o leisiau.

Cyhoeddiad arwyddocaol arall ydy fod yr ŵyl, sydd wedi bod yn cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn ers 2016, bellach i’w sefydlu fel digwyddiad blynyddol.

Mae arlwy’r ŵyl yn y gorffennol wedi arddangos rhai o leisiau mwyaf nodedig y byd o bob rhan o’r sbectrwm cerddorol, gan gynnwys Patti Smith, Van Morrison, Femi Kuti, Laura Marling, Candi Staton, Elvis Costello, Hugh Masekela, Rufus Wainwright, Fatoumata Diawara, John Grant ac Angélique Kidjo.

Cydweithio

Wrth galon yr ŵyl mae yna bob amser gydweithrediadau un-tro sy’n cyfuno lleisiau a genres.

Yn 2016, cafodd cynulleidfaoedd gyfle i fwynhau noson unigryw lle roedd John Cale, aelod o The Velvet Underground, yn rhannu’r llwyfan gyda Charlotte Church a’r actor Michael Sheen. Ac yn 2018, cyflwynodd Gruff Rhys berfformiad cyntaf ei albwm Babelsberg ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru, i gyfeiliant 72 aelod o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

“Rydym wrth ein boddau fod Gŵyl y Llais, o eleni ymlaen, yn dod yn ganolbwynt rhyngwladol yng nghalendr blynyddol, ac yn ymrwymiad Caerdydd i roi cerddoriaeth wrth galon datblygiad y brifddinas” meddai Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru.

“Mae Gŵyl y Llais yn llawer mwy na gŵyl gerddoriaeth; mae’n archwiliad o’r hyn y gall y llais wneud a pha mor bwysig yw hi i gael un. Mynnwch docyn nawr ac ymunwch a ni ym mis Hydref – mae’n addo bod yn benwythnos hir bythgofiadwy.”

Lleisiau sy’n dod â llawenydd

Mae’n amlwg fod Cate le Bon yn edrych ymlaen at gael cyfrannu at y prosiect eleni hefyd.

“Mae’n wirioneddol fraint i guradu rhan fach o’r ŵyl anhygoel yma” meddai’r gantores.

“Mae’n annog curaduron i daflu’r rhwyd yn bell a dod â lleisiau ystyrlon i ddinas Caerdydd. Mae’n beth hyfryd i roi sylw i leisiau sy’n dod â llawenydd, sy’n arwain, yn ysbrydoli, yn herio, yn lleddfu ac yn ein huno ni tra bod rhaniad gwleidyddol a digysylltiad yn cael eu hannog.”

Mae’r bandiau garddwrn penwythnos Cyntaf i’r Felin ar gyfer Gŵyl y Llais 2020 ar werth yn ar wefan Canolfan Mileniwm Cymru ers dydd Mercher 19 Chwefror 2020.