Gŵyl Ynysu i ddod a phawb ynghyd

Ddydd Sul yma, 29 Mawrth, bydd Y Selar yn llwyfannu’r ŵyl gerddoriaeth Gymraeg gyntaf o’i math (hyd y gwyddom ni!) gyda llwyth o gerddorion cyfoes Cymru’n perfformio i gynulleidfa sy’n ynysu yn eu cartrefi.

Mae’r argyfwng Coronavirus yn golygu bod bron pawb y gaeth i’w cartrefi ar hyn o bryd ar wahân i ambell drip siopa bwyd fer, neu sesiwn ymarfer corff.

Mae hyn yn golygu fod pob gig wedi’u gohirio am dymor amhenodol, gan olygu fod calendr gigs Y Selar yn wag a llwyth o’n cerddorion yn segur.

Ateb Y Selar i hyn oedd annog artistiaid Cymraeg i fynd ati i gyhoeddi fideos ohonynt yn perfformio yn eu cartrefi ar y cyfryngau cymdeithasol, neu fanteisio ar ffrydiau fideo byw fel Facebook Live. A thrwy hynny daeth y syniad o gynnal gŵyl arbennig….gŵyl rithiol…Gŵyl Ynysu!

Ers crybwyll y syniad at Twitter wythnos diwethaf mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel a bydd Gŵyl Ynysu Y Selar yn digwydd ddydd Sul yma gyda cherddoriaeth fyw trwy’r dydd ar Facebook Live.

Mae’r cerddorion wedi bod yn barod iawn i gymryd rhan, a bydd modd i chi wylio set newydd ar yr awr, bob awr ddydd Sul gan ddechrau am 11:00. Bydd modd gwylio trwy dudalen unigol yr artistiaid, neu byddwn yn rhannu’r cyfan ar ffrwd tudalen Facebook Y Selar.

Heb gigs, does dim incwm i artistiaid chwaith, ond yn hytrach na phrynu tocyn bydd modd i chi wneud cyfraniad i’r artistiaid sy’n perfformio trwy wasanaeth ‘Buy me a Coffee’ (diolch i un o gyn-gyfranwyr Y Selar, Leusa Fflur am awgrymu’r system yma). Bydd yr artistiaid yn rhannu dolen unigryw er mwyn gallu cyfrannu ar waelod eu fideo byw.

Wrth reswm, oherwydd y cyfyngiadau presennol, bydd y rhan fwyaf o’r perfformiadau yn rai unigol / acwstig…ond bydd hynny’n gwneud y digwyddiad yn fwy unigryw fyth.

Felly, heb oedi ymhellach, dyma gyhoeddi amserlen lawn Gŵyl Ynysu, ynghyd â dolen i dudalen Facebook yr artist:

 

11:00 – Y Cledrau

12:00 – Sera

1:00 – Gwen Màiri

2:00 – Roughion (set DJ)

3:00 – Ynys (mewn cydweithrediad â Gorwelion)

4:00 – She’s Got Spies

4:30 – Jacob Elwy

5:00 – Al Lewis

6:00 – Elis Derby

7:00 –  Dienw

8:00 – Dafydd Hedd

9:00 – Bwca

10:00 – Tegid Rhys

11:00 – Ifan Pritchard / Gwilym (mewn cyd-weithrediad â Gorwelion)

Felly, beth am ymuno â’r ŵyl unigryw yma er mwyn teimlo bach llai ynysig, gan gefnogi cerddorion Cymraeg a bod yn gefn i’n gilydd! Peidiwch colli’r cyfle i fod yn rhan o rywbeth arbennig.