Denodd yr ŵyl rithiol unigryw, Gŵyl Ynysu, filoedd o bobl i wylio’r amryw berfformiadau ddydd Sul (29 Mawrth).
Wrth i bawb ddilyn gorchmynion diweddaraf y Llywodraeth i ymbellhau’n gymdeithasol ac aros yn eu cartrefi gymaint â phosib oherwydd argyfwng COVID-19, penderfynodd Y Selar drefnu gŵyl gerddoriaeth rithiol fyddai’n dod a phawb ynghyd.
Dyma’r ŵyl gerddoriaeth Gymraeg gyntaf o’i math, gyda pherfformiadau unigol gan artistiaid Cymraeg amlwg rhwng 11:00 a hanner nos.
Roedd 13 o artistiaid yn perfformio i gyd yn ystod y dydd sef:
Y Cledrau (Joseff o’r band), Sera, Gwen Màiri, Roughion (set DJ gan Gwion), Ynys, She’s Got Spies, Jacob Elwy, Al Lewis, Elis Derby, Dienw, Dafydd Hedd, Tegid Rhys ac Ifan Pritchard o’r band Gwilym.
Undod cerddorol
Roedd pob artist yn darlledu setiau byw yn ystod y dydd trwy eu tudalen Facebook, a phob un yn cael eu rhannu ar dudalen Y Selar.
Cafodd pob set ei wylio gannoedd o weithiau, a sawl un yn denu dros fil i wylio.
Yn wir, cafodd perfformiadau artistiaid fel Gwen Màiri ac Al Lewis eu gwylio dros ddwy fil o weithiau yn ystod y dydd yn unig. Mae dal modd gwylio’r holl berfformiadau ar dudalen Facebook Y Selar.
“Gan ein bod ni i gyd yn styc yn ein cartrefi ar hyn o bryd, gan gynnwys lot o artistiaid sydd wedi gweld eu holl gigs yn cael eu gohirio am gyfnod amhenodol, roedden ni’n awyddus i ddod â phawb ynghyd a chreu rhyw fath o undod cerddorol” meddai Owain Schiavone o’r Selar.
“Rydan ni wedi bod yn trio annog artistiaid Cymraeg i rannu caneuon a setiau byw ar eu cyfryngau cymdeithasol…ac roedd cynnig y syniad o ŵyl yn rywbeth reit ffwrdd a hi i ddechrau, ond mae’n amlwg fod y syniad wedi dal y dychymyg ac roedd llwyth o artistiaid am fod yn rhan o’r prosiect.
“Dwi’n hynod o falch fod pawb wedi cael gwrandawiad arbennig o dda, a gobeithio bod y digwyddiad wedi bod yn fodd o ddangos cefnogaeth a bod yn gefn i’n gilydd mewn cyfnod anodd. Roedd cyfle i bobl wneud cyfraniad bach i bob artist am eu trafferth hefyd fel modd o ddangos gwerthfawrogiad.
“Roedd yn grêt gweld ambell un yn creu ‘partion gwylio’ wrth wylio’r digwyddiad trwy’r dydd. Pwy a ŵyr, efallai y gwelwn ni fwy o wyliau cerddorol tebyg dros y misoedd nesaf!”
Dyma holl berfformiadau’r dydd:
Y Cledrau (Jo)
Posted by Y Cledrau on Sunday, 29 March 2020
Sera
Posted by Sera Zyborska on Sunday, 29 March 2020
Gwen Màiri
Helo bawb! Dwi'n perfformio set fach fel rhan o Gŵyl Ynysu cylchgrawn Y Selar. Gobeithio bo chi gyd yn iawn. Mae linc bach os ydy unrhywun moyn "prynu tocyn" ond sdim rhaid o gwbl! buymeacoff.ee/gwenmairiHi everyone! I'm playing a wee set as part of Y Selar magazine's Gŵyl Ynysu (Isolation Festival). Hope you're all ok! There's a link if anyone fancies "buying a ticket" but you don't need to at all!
Posted by Gwen Màiri on Sunday, 29 March 2020
Roughion
Gŵyl Ynysu y selar Dj set off the cuff, duno be ni am chware let's just have some fun.
Posted by Roughion on Sunday, 29 March 2020
Ynys
Ynys Live
Posted by Horizons / Gorwelion on Sunday, 29 March 2020
She’s Got Spies
Yn fyw o’r Gŵyl Ynysu Y SelarCroeso nol i’r Gŵyl Ynysu. Diolch am ymuno a fi. Dyma’r set She’s Got Spies.Welcome back to the Gŵyl Ynysu. Thanks for joining. Here’s the She’s Got Spies set.If you’d like to ‘buy me a coffee’ can do so here: https://www.buymeacoffee.com/shesgotspiesDiolch!https://open.spotify.com/artist/5Xg7PEwOqf1KD8yk5FQImX?si=THyL87UIRiebvtUOhXn54g
Posted by She's Got Spies on Sunday, 29 March 2020
Jacob Elwy
Posted by Jacob Elwy Live on Sunday, 29 March 2020
Al Lewis
Posted by Al Lewis on Sunday, 29 March 2020
Elis Derby
Posted by Elis Derby on Sunday, 29 March 2020
Dienw (Twm)
Gŵyl Ynysu Y Selar golchwch eich dwylo
Posted by Dienw on Sunday, 29 March 2020
Dafydd Hedd
Diolch i bawb am wylio fy gig ffrydio heno! Gwyl Ynysu gan Y Selar di bod yn class hyd yn hyn!Mi rydw i hefyd yn casglu pres at banciau bwyd ym Methesda oherwydd amser anodd mae rhai yn cael gyda COVID-19! Dyma’r lincwww.buymeacoffee.com/DafydHedd
Posted by Dafydd Hedd on Sunday, 29 March 2020
Bwca
Gig o Soffa Steff #Gwylynysu Y Selar
Posted by Bwca on Sunday, 29 March 2020
Tegid Rhys
Gŵyl Ynysu Y Selar!!
Posted by Tegid Rhys on Sunday, 29 March 2020
Ifan Pritchard o’r band Gwilym
Posted by Horizons / Gorwelion on Sunday, 29 March 2020