Fleur de Lys ydy’r grwp Cymraeg diweddaraf i weld un o’u caneuon yn cael ei ffrydio dros 100,000 o weithiau ar wasanaeth ffrydio Spotify.
Rhyddhawyd y gân yn wreiddiol ar EP Fleur de Lys, ‘Bywyd Braf’ yn 2015 ac mae wedi dod yn ffefryn fawr ar y tonfeddi radio, ac mewn gigs byw ers hynny.
Rhyddhaodd y grŵp o Fôn eu halbwm newydd, O Mi Awn am Dro, ym mis Hydref ac fe fyddant yn chwarae ar nos Wener Gwobrau’r Selar, sef 14 Chwefror.