Mae’r grŵp Hap a Damwain yn dal eu gafael yn y goron fel un o fand mwyaf bywiog y cyfnod cloi, gyda sengl newydd allan ddydd Gwener yma, 17 Gorffennaf.
‘Yuri Gagarin’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf, ac mae’n cael ei rhyddhau’n ddigidol ar eu safle Bandcamp.
Mae’r sengl yn dilyn dau EP sydd wedi eu rhyddhau ganddynt yn ystod cyfnod y cloi mawr, sef ‘Ynysig #1’ a ryddhawyd ym mis Mai, ac ‘Ynysig #2’ a ryddhawyd fis Mehefin.
Wrth ryddhau’r ail EP fe awgrymodd y grŵp y gallwn ddisgwyl trydedd record fer yn fuan hefyd, ac mae’n ymddangos mai ‘Yuri Gagarin’ ydy’r blas cyntaf o’r EP hwnnw.
Hadau Boff Frank Bough
Hap a Damwain ydy prosiect newydd dau o gyn-aelodau’r grŵp Boff Frank Bough, sef grŵp o Ddyffryn Conwy a Dyffryn Clwyd oedd yn amlwg yn y 1980au.
Ail-ffurfiodd y grŵp i berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst llynedd ac ers hynny mae dau o’r aelodau wedi mynd ati i ddechrau’r prosiect newydd.
Aelodau Hap a Damwain ydy’r canwr Aled Roberts, sydd hefyd yn chwarae’r organ, a Simon Beech ar y gitâr a phopeth arall. Mae Aled Roberts hefyd yn aelod o’r grŵp Dau Cefn.
Ac mae’n ymddangos bod sengl ddiweddaraf Hap a Damwain yn dwyn dylanwad o ddyddiau cynnar grŵp cyntaf Aled a Simon.
“Mae’r trac yn mynd a ni ar daith o’r Steddfod ym Mhorthmadog ym 1987, pryd y gwnaeth hadau Boff Frank Bough gael eu plannu, yn ôl mewn amser i ddyddiau cynnar y ras ofod, amser lle’r oedd unrhyw beth i’w weld yn bosib” meddai Simon Beech wrth drafod y sengl newydd.
“Mae ‘Soyuz’ yn Rwsieg am ‘undeb’ ac yn y dyddiau ansicr sydd i ddod mae’n amser i bawb ofyn, ‘Beth am y Soyuz?’
‘Proses anodd’
Ac mae’r grŵp yn defnyddio sampl o lais cymeriad adnabyddus arall ar y trac newydd, fel yr eglura Simon.
‘”Dyfan Roberts, mewn cymeriad fel y Ffarmwr Ffowc ydy’r llais sy’n adleisio dros y blynyddoedd ar gychwyn y trac.”
Er fod y ddeuawd wedi bod yn weithgar iawn yn ystod y cyfnod cloi, mae Simon yn cydnabod na fu hynny bob amser yn hawdd.
“Mae proses recordio Yuri Gagarin wedi bod yn anodd, efo llawer o rwystrau technegol i’w goresgyn – meics ddim yn gweithio, pethau’n mynd allan o sync wrth recordio, ac ati.
“Ac i feddw bod hyn i gyd wedi digwydd yn ystod y cloi mawr, hefo Hap yn cymryd y rhan o Ground Control a Damwain fel y cosmonaut.”
Roedd cyfle cyntaf i glywed y trac newydd ar wefan Y Selar nos Lun diwethaf, 13 Gorffennaf.