Hiraeth am y bws gan Bwca

Mae’r grŵp o’r canolbarth, Bwca, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 5 Mehefin.

‘Hiraeth Fydd (701)’ ydy enw’r trac newydd ac mae’n cael ei ryddhau ar label Recordiau Hambon.

Ysgrifennwyd y gân wrth gofio am yr holl brofiadau o deithio ar fws chwedlonol a di-ddiwedd y ‘701’ rhwng Caerdydd ac Aberystwyth.

Er nad oes modd teithio’n bell o gartref ar hyn o bryd o ganlyniad i’r cloi mawr, dywed y grŵp bydd y trac yma’n codi chwant ar y gwrandawr i gynllunio eu taith nesaf – boed i Lanzarote neu i Lanybydder.

Dyma’r ail drac i Bwca ryddhau o’r casgliad o ganeuon a recordiwyd ganddynt dros y gaeaf yn Stiwdio Sain, Llandwrog gyda’r cynhyrchwyr Ifan Jones ac Osian Williams o Stiwdio Drwm.

Mae’r trac hefyd yn nodi dechrau partneriaeth newydd gyda’r label Recordiau Hambon, sef label y Welsh Whisperer.

Steff Rees (llais a gitâr) ydy arweinydd grŵp Bwca, ac mae’r aelodau eraill yn cynnwys Ffion Evans (llais); Nick Davalan (gitâr fas) a Rhydian Meilir Pughe (drymiau).

Mae’r gwaith celf trawiadol ar gyfer y sengl newydd gan yr artist talentog o Geredigion, Lois Ilar.