Bydd HMS Morris yn rhyddhau eu sengl newydd ar 16 Medi.
‘Myfyrwyr Rhyngwladol’ ydy enw’r trac newydd ac mae’n dilyn y ddwy sengl a ryddhawyd cyn cyfnod y cloi mawr, ‘Babanod’ a ‘Poetry’, i gwblhau’r gyfres o dair.
Mae’r sengl newydd yn dwyn dylanwad o amgylchedd y grŵp yn y Brifddinas. Mae hwb creadigol HMS Morris yn swatio ger un o strydoedd mwyaf amlddiwylliannol Caerdydd, sef City Road.
Mae’r ardal yn gawl gosmopolitaidd o fwytai, bariau shisha a barbwyr, sydd yn ddiweddar wedi ei gorlethu gan neuaddau preswyl posh i fyfyrwyr.
Y broblem enbyd hon yn y ddinas oedd yr ysgogiad gwreiddiol i ‘Myfyrwyr Ryngwladol’, ond erbyn iddi galedu’n deimlad a sain pendant doedd hi ddim yn rant am neuaddau myfyrwyr bellach, ond yn hytrach yn fyfyrdod ar gymaint o le gwell fyddai’r byd petaen ni i gyd yn fyfyrwyr rhyngwladol.
Dyletswydd i astudio’r rhyngwladol
Wrth lansio’r sengl newydd mae HMS Morris yn troi eu golygon at y daeargryn cymdeithasol byd-eang a ddechreuodd gyda marwolaeth George Floyd yn Minneapolis fis Mai eleni.
Dywed y grŵp ei bod yn ddyletswydd moesol arnom ni i gyd i astudio’r rhyngwladol – i wylio’r newyddion, i’w ystyried yn ofalus, ac i ddysgu ac addasu ein hymddygiad.
Gyda ‘Myfyrwyr Rhyngwladol’ mae HMS Morris yn annog pawb i drochi mewn diwylliannau eraill, yn union fel y mae myfyrwyr rhyngwladol City Road yn gwneud.
Mae’r sengl newydd yn cael ei rhyddhau’n ddigidol yn y mannau arferol ar 16 Medi, a hynny ar label Bubblewrap Records. Mae’r gwaith celf ar gyfer y sengl gan yr artist Mari Elin.