HMS Morris yn rhyddhau EP Pastille

Mae EP newydd HMS Morris, Pastille, wedi’i ryddhau’n swyddogol ers dydd Gwener diwethaf, 4 Rhagfyr.

Mae’r EP yn cynnwys y gyfres o senglau sydd wedi’u rhyddhau gan y grŵp yn ystod 2020.

Rhyddhawyd y gyntaf, ‘Babanod’ nôl ym mis Chwefror, ac yna ‘Poetry’ i ganlyn ym mis Ebrill. Dilynwyd hynny gan ddwy sengl dros yr hydref sef ‘Myfyrwyr Rhyngwladol ym mis Medi a ‘Partypooper’ ddechrau mis Tachwedd.

Mae’r EP yn cynnwys fersiwn estynedig o’r trac ‘Partypooper’ yn ogystal â chan arall o’r enw ‘Marshmallow’.

Label Boobytrap sy’n rhyddhau’r EP, ac mae nifer cyfyngedig o 100 o gopïau ar record feinyl 12” lliw glas.

Dim ond trwy archebu ar safle Bandcamp HMS Morris mae modd prynu’r fersiwn record feinyl.

Blwyddyn arwyddocaol

“Mae Pastille yn gasgliad  bump o ganeuon rydyn ni wedi ysgrifennu, neu orffen o leiaf, yn ystod 2020, ac yn hynny o beth mae’n gronicl o’n profiadau ni yn ystod un o’r blynyddoedd mwyaf arwyddocaol mewn hanes diweddar” meddai’r grŵp.

“Bu digon o amser i feddwl o ddifrif am ddewisiadau bywyd, yn ogystal ag ystyried gwiriondeb arwynebol.”

Dywed y grŵp fod dull rhyddhau Pastille hefyd yn adlewyrchiad o 2020.

“Mae’r flwyddyn hon yn arwyddocaol o ran dynodi diwedd y diwydiant cerddoriaeth old school,  sydd wedi bod ar beiriant cynnal bywyd ers i werthiant y CD rygnu i stop ar droad y ganrif.

“Gyda’r diwydiant yn dibynnu’n fwyfwy ar incwm teithio, mae’n wynebu dyfodol llwm wrth i’r gwaharddiad ar ddigwyddiadau cerddoriaeth byw barhau.”

Yn ôl y grŵp, un darn o oleuni ar bendraw’r twnnel ydy’r twf ym mhroffil a phwysigrwydd Bandcamp.

“Y platfform yma ydy’r ffordd mwyaf uniongyrchol o sicrhau bod arian y gwrandawyr yn cyrraedd yr artist, a’r flwyddyn hon maen nhw wedi mynd gam ymhellach i gefnogi trwy hepgor eu ffioedd ar ddydd Gwener cyntaf pob mis.

“Rydyn ni’n ymwybodol bod gofyn i bobl dalu’n uniongyrchol am ein cerddoriaeth yn ymddangos yn cheeky, digywilydd, ac efallai niwsans i rai sydd eisoes yn talu am wasanaeth tanysgrifiad ffrydio, ond rydyn ni wedi gweithio’n galed i wneud Pastille mor arbennig a phosib, ac yn becyn sy’n llawer gwell na jyst ffrydio’r caneuon.”

Mae modd prynu’r EP yn ddigidol, neu ar feinyl nifer cyfyngedig, ar safle Bandcamp HMS Morris.