Mae HMS Morris wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘Partypooper’, ers dydd Gwener diwethaf 6 Tachwedd.
Dyma’r bedwaredd mewn cyfres o senglau i’w rhyddhau eleni gan y grŵp sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd.
Rhyddhawyd y gyntaf o’r rhain, ‘Babanod’ ar ddechrau mis Tachwedd gyda ‘Poetry’ yn dilyn ym mis Ebrill, a’r sengl ddiweddaraf, ‘Myfyrwyr Rhyngwladol’ yn cael ei rhyddhau fis yn ôl ar 16 Medi.
Mae ‘Partypooper’ yn cynnwys cyfraniad gan westeion arbennig sef Owain Gruffudd a Gwyn Owen – dau aelod o Band Pres Llareggub.
Owain sy’n gyfrifol am y trefniant pres ar y gân hefyd. Mae Iestyn Jones, sydd hefyd yn y band Lewys, yn ymuno ar y drymiau.
I gyd-fynd â’r sengl newydd mae’r grŵp hefyd wedi dechrau cymryd archebion am eu EP newydd, Pastille, fydd yn cael ei ryddhau’n swyddogol ar 4 Rhagfyr.
Mae nifer cyfyngedig o gopiau ar gael ar ffurf feinyl hyfryd, ac mae ganddyn nhw grysau-T newydd neis iawn hefyd – gallwch archeb ar safle Bandcamp HMS Morris.