Mae HMS Morris wedi rhyddhau sengl newydd ers dydd Mercher 1 Ebrill.
‘Poetry’ ydy enw’r trac diweddara i ymddangos gan y grŵp psych-pop electronig a label Recordiau Bubblewrap sy’n gyfrifol am ryddhau.
Mae ‘Poetry’ yn ddilyniant i’r sengl ddiweddaraf gan y grŵp, ‘Babanod’, a ryddhawyd ddechrau mis Chwefror. Dyma’r ddwy gyntaf mewn cyfres o senglau mae HMS Morris yn cynllunio rhyddhau yn ystod 2020.
Mae’r gân yn adlewyrchu’r gwallgofrwydd graddol sy’n tyfu o dganlynia i gariad obsesiynol pan nad yw’r teimladau’n cael eu rhannu gan y person arall.
Mae’r trac allan yn ddigidol ar yr holl lwyfannau arferol, ac mae HMS Morris yn gobeithio gigio’n gyson dros yr haf.
I gyd-fynd â’r sengl, mae HMS Morris wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y trac ar-lein. Ffilmiwyd y fideo gan Rhodri Brooks a Sam Roberts, ac mae wedi’i gynhyrchu gan Heledd Watkins a Sam Roberts sef dau aelod craidd y grŵp.