Mae’r grŵp o Gaerdydd, Hyll, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener 13 Tachwedd.
‘Coridor’ ydy enw’r trac diweddaraf i ymddangos gan y grŵp, ac mae’n cael ei ryddhau’n swyddogol ar label Recordiau JigCal.
Mae’r fideo ar gyfer y gân eisoes wedi ymddangos yn ddiweddar ar sianel YouTube Hyll, ac ers hynny mae’r trac wedi bod yn cael ei chwarae ar orsafoedd radio Cymreig.
Mae neges agos-atoch a gobeithiol y gân wedi cydio mewn cynulleidfaoedd rhwng yr alaw amrwd ar y piano a gonestrwydd y geiriau.
“Mae’n eitha weird i fod yn rhyddhau cerddoriaeth yn ystod cyfnod y clo…” meddai Iwan o’r band.
“…ac yn fwy weird fyth i fod yn rhyddhau cân sy’n eitha optimistaidd amdano’r dyfodol.”
“Gath ‘Coridor’ ei chyfansoddi llynedd ac er bo’r profiadau o agosatrwydd ag amser yn pasio yn teimlo chydig yn anghyfarwydd ar ôl i ni gloi ein hunain i ffwrdd am fisoedd hir, odd hi’n braf i gal ein atgoffa ohonynt gan y gân yma.”
“Ma rhyddhau hwn nawr bach yn rhyfedd ond mae’n braf cael ail-ymweld ag ambell freuddwyd. Ma’n troi mas bod dyfodiad Covid heb ein diflannu.”
Mae ‘Coridor’ yn cynnig cyfle i ddianc o wallgofrwydd y cyfnod diweddar ac ymdreiddio mewn i freuddwydion a meddyliau Hyll.
Dyma fideo ‘Coridor’: