Jacob a Rhydian yn rhyddhau ‘Mr G’

Mae sengl newydd Jacob Elwy a Rhydian Meilir allan ar label Recordiau Bryn Roc ers dydd Gwener diwethaf, 31 Gorffennaf.

‘Mr G’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y ddau gerddor, y bedwaredd sengl iddynt gyd-weithio arni.

Mae Jacob yn amlwg hefyd fel cerddor unigol, a hefyd am ei waith gydag’r Trŵbz – rydym wedi gweld cyfres o senglau ganddynt yn ystod y cyfnod cloi, gyda’r ddiweddaraf, ‘Hiraeth Ddaw’ yn cael ei rhyddhau ddiwedd mis Mehefin. 

Mae Rhydian hefyd wedi bod mewn sawl band gan gynnwys Hufen Ia Poeth, ac mae’n ddrymiwr i Bwca ar hyn o bryd.

Dylanwad Gai

Recordiwyd y sengl newydd yn siwdio Mei Gwynedd yng Nghaerdydd, ac mae wedi’i dylanwadu arni gan gerddor amlwg arall, fel yr eglura Rhydian Meilir.

“Rydw i’n hoffi Mim Twm Llai” meddai’r cyfansoddwr.

“…ac yn meddwl am ei gân ‘Tafarn yn Nolrhedyn’ ar yr adeg nes i ‘sgwennu ‘Mr G’, a sut oedd o’n ‘sgwennu am gymeriadau’r ardal a’r gymuned.”

Fel mae Rhydian yn awgrymu, mae’r trac yn un storïol, hiraethus, sy’n creu darlun hoffus o gymeriad a’i gymuned. Mae’r cyfuniad o harmonïau cywrain a’r offeryniaeth acwstig yn rhoi naws werinol, hamddenol sy’n gweddu’r haf.