Mae Jacob Elwy a’r Trŵbz wedi rhyddhau sengl newydd ddoe, dydd Gwener 17 Ebrill.
‘Annibyniaeth’ ydy enw’r trac newydd a dyma’r ail mewn cyfres o senglau mae Jacob yn rhyddhau gyda’r Trŵbz. Rhyddhawyd y gyntaf, sef ‘Drudwy’ ddiwedd mis Ionawr eleni.
Fel mae’r enw’n awgrymu, mae hon yn gân wleidyddol a gyfansoddwyd gan Jacob pan oedd yn teithio yn Ne America fel yr eglura’r cerddor.
“Cân wleidyddol gyfansoddais i tra o’n i’n Salvador, Brasil ar ôl ffeindio ysbrydoliaeth yn dathlu eu diwrnod annibyniaeth gyda’r locals” eglura Jacob.
“Mae’r gân yn sôn am sut mae’r Cymry’n cael eu ’sathru dan reolau Llundain’ drwy godi sylw at drychinebau fel beth ddigwyddodd yng Nghapel Celyn.
“Da ni’n gobeithio bydd y gân yn codi bach o ymwybyddiaeth am hanes ein gwlad ac yn annog pobol i ddilyn y symudiad YesCymru.”
Recordiwyd y trac newydd yn stiwdio Bing, ac mae’n cael ei rhyddhau ar label annibynnol Jacob, sef Bryn Rock.
Mae’r grŵp hefyd wedi rhyddhau fideo i gyd-fynd â’r sengl sydd â nawr cenedlaetholgar iawn iddo: