Jarman yn rhyddhau fersiwn dub Cariad Cwantwm

Mae Geraint Jarman wedi rhyddhau fersiwn dub o’i albwm diweddaraf ddydd Gwener diwethaf, 21 Awst.

Cwantwm Dub ydy’r fersiwn newydd o’r albwm Cariad Cwantwm a ryddhawyd yn 2018, ac mae’n gwireddu breuddwyd i’r cerddor sydd wastad wedi bod eisiau rhyddhau albwm arddull reggae dub.

Label Ankstmusik sy’n rhyddhau’r casgliad newydd sydd allan ar feinyl yn unig ar hyn o bryd, ond fydd ar gael yn ddigidol hefyd ar 4 Medi.

Mae’r record yn cael ei rhyddhau fel rhan o ddathliadau Geraint Jarman wrth iddo droi’n 70 oed ym ddiweddar.

Artist perthnasol, gwait perthnasol

Dyma gynnyrch diweddaraf y cerddor sydd wedi ail-ddiffinio ei hun fel artist unigol ers 2010.

Yn un o’r cerddorion cyfoes mwyaf dylanwadol erioed, dros y ddegawd diwethaf mae Geraint wedi dewis ei lwybr ei hun gan gofleidio genres a chyfranwyr newydd ar bob albwm dros y cyfnod hwn.

Mae pump albwm wedi’u rhyddhau ers 2011 sef Brecwast Astronot (2011)Dwyn yr Hogyn Nôl(2014), Tawel Yw’r Tymor (2016), Cariad Cwantwm (2018) a’r casgliad newydd,  Cwantwm Dub (2020).

Mae pob un wedi llwyddo i gyflwyno Geraint fel artist perthnasol sy’n creu gwaith perthnasol i’r genhedlaeth newydd sbon o ddilynwyr eiddgar yn ogystal â’r ffyddlon. Yn ôl y label, yr un fydd hanes yr albwm yma hefyd.

Mae gyrfa Geraint yn ymestyn yn ôl ymhell tu hwnt i’r deng mlynedd diwethaf wrth gwrs, reit nôl i’r 1960au.

Yn ôl Ankstmusik mae ei ddyddiau cynnar fel bardd trefol ifanc yn troedio strydoedd Caerdydd a’i frwdfrydedd gydol oes a’i gariad at chwarae cerddoriaeth reggae ledled Cymru yn cael ei adlewyrchu’n llawn yn ystod sonig yr albwm Dub hwn.

Krissie Jenkins – “majestic”

Mae’n debyg ei bod wastad yn amlwg bod Geraint yn awyddus i ddychwelyd at ganeuon Cariad Cwantwm.

Unwaith yn daeth i’r amlwg ei fod wedi dewis y cynhyrchydd Krissie Jenkins i dynnu’r lleisiau oddi-ar y backing tracks a dechrau trin ac ail-greu’r traciau, roedd yn glir bod y prosiect yn mynd i fod yn un arbennig iawn.

Mae cerddoriaeth dub yn fath chwyldroadol o greu cerddoriaeth ac yn nwylo Krissie mae’n teimlo’n ddiogel wrth i’r recordiadau gwreiddiol gael eu dybio a’u disodli, eu trin gan declynnau stiwdio er mwyn datgelu harddwch syml y gerddoriaeth sy’n galon i’r cyfan. Llinellau bas chwareus Pete Hurley, curiadau Tim Robinson, y lleisiau  hyfryd y chwiorydd Lisa, Hanna a Mared a’r fflachiadau anhygoel hynny o liw drwy’r albwm gan y cynhyrchydd gwreiddiol Frank Naughton.

Mae Geraint ei hun yn amlwg yn gwerthfawrogi gwaith Krissie ar yr albwm hwn, a meddai’r cerddor:

“Rhowch fedal i’r dyn, ar rai o’r traciau hyn mae wedi llwyddo i grisialu’r elfennau gwreiddiol i ffurf feistrolgar ac unigryw o Dub Caerdydd Cymreig – Majestic!”

Dyma’r fersiwn dub o’r trac ‘O Fywyd Prin’ a ryddhawyd fel rhan o sengl ddwbl yn 2018: