Bydd enw un o’r labeli recordiau Cymraeg amlycaf ar hyn o bryd i’w weld ar grysau tîm pêl-droed merched yn y Gogledd yn fuan.
Mae Recordiau Côsh wedi cadarnhau y byddan nhw’n noddi crysau tîm pêl-droed merched Bethel ger Caernarfon.
Yws Gwynedd ydy rheolwr label Recordiau Côsh wrth gwrs, ag yntau’n gyn bêl-droediwr yn Uwchgynghrair Cymru, nid yw’n syndod mawr ei fod wedi cael ei ddenu i fagu perthynas rhwng ei label a thîm pêl-droed.
Esiamplau tebyg
Nid dyma’r tro cyntaf i gerddoriaeth gyfoes a phêl-droed ddod ynghyd fel hyn – mae sawl esiampl yn y gorffennol o fandiau yn enwedig yn noddi timau pêl-droed.
Efallai mai’r enwocaf ydy pan fu’r grŵp amlwg o’r Alban, Wet Wet Wet, yn noddi eu tîm lleol CPD Clydebank ac mae’r DJ enwog Fat Boy Slim wedi noddi ei glwb lleol yntau, Brighton & Hove Albion am gyfnod.
Mae esiamplau Cymreig hefyd gyda’r Super Furry Animals yn noddi crys ymgyrch Gwpan Cymru Dinas Caerdydd ym 1999, a Goldie Lookin’ Chain yn noddi crysau CPD Casnewydd.
Yn nes eto at adref, fe wnaeth un o grwpiau Côsh, Alffa, noddi un o chwaraewyr CPD Llanrug yn 2018.
Dim i’w golli
Gwenno Gibbard sydd wedi bod yn gyfrifol am drefnu’r nawdd gyda Recordiau Côsh ar ran y tîm, ac fe dyfodd y cyfan o’r ffaith fod rhaid i’r tîm newid lliw eu crysau ar gyfer y tymor newydd.
“O be da ni’n dallt, erbyn tymor nesaf mae’n rhan o reolau’r FAW [Cymdeithas Bêl-droed Cymru] fod neb yn cael chwarae mewn cit du neu navy oherwydd y swyddogion” eglurodd Gwenno.
“Felly roedd rhaid i ni feddwl am drefnu cael cit newydd a chwilio am noddwr. Gan bod ni’n ymwybodol o gefndir Ywain Gwynedd gyda phêl-droed roeddem yn teimlo nad oedd dim i’w golli o ofyn iddo a’i gwmni, Recordiau Côsh.”
“Yn ffodus, a lwcus iawn i ni, roedd Ywain yn gefnogol iawn i’r syniad ac mewn mater o ddiwrnodau roedd logo a dyluniad wedi’u sortio a chytuno gyda Ywain, a cafodd y cit ei ordro! Fel clwb rydan ni’n werthfawrogol iawn i Ywain a Recordiau Côsh am noddi tîm pêl-droed y merched, ac mae’r gefnogaeth yn golygu llawer i ni fel tîm.”