Roedd yn ddathliad dwbl i Al Lewis penwythnos diwethaf wrth iddo ryddhau ei albwm newydd a dechrau taith Gymreig ddydd Gwener.
‘Te yn y Grug’ ydy enw record hir ddiweddaraf y cerddor o Ddyffryn Clwyd, ac fe’i rhyddhawyd ddydd Gwener diwethaf, 21 Chwefror. Mae’r record allan yn ddigidol ac ar ffurf feinyl.
I gyd-fynd â rhyddhau’r albwm newydd mae Al yn cynnal taith theatrau i hyrwyddo, gyda’r noson agoriadol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth nos Wener diwethaf.
Dathlu 60
Albwm cysyniadol ydy ‘Te yn y Grug’ wedi’i ysbrydoli gan gyfrol enwog yr awdures Dr Kate Roberts a gyhoeddwyd ym 1959. Ysgrifennwyd y geiriau gan Karen Owen a Cefin Roberts, a cafodd y caneuon eu perfformio gyntaf fel rhan o sioe gerdd lwyddiannus Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst nôl ym mis Awst oedd yn dathlu 60 mlynedd ers cyhoeddi’r llyfr.
Mae’r stori’n dilyn bywydau tair merch – Begw, Winni a Mair – â’u magwraeth yn un o gymunedau chwareli Gogledd Cymru ar droad yr 20fed ganrif. Mae’n stori gyfarwydd am golled, tlodi, crefydd, cymuned a pherthyn.
Mae’r sioe lwyfan sydd ar daith wedi’i rhannu’n ddwy ran – bydd Al yn ystod y rhan gyntaf yn ymweld â’i ôl-gatalog drwy berfformio set acwstig unigol unigryw. Yn yr ail ran bydd cerddorion eraill a chôr lleol yn ymuno ag Al i berfformio’r albwm Te yn y Grug yn ei chyfanrwydd. Côr ABC oedd yn gwmni iddo yn y sioe gyntaf yn Aberystwyth, ac roedd y gantores Beth Celyn yn cefnogi.
Bydd yn perfformio nesaf yn y Galeri, Caernarfon nos Iau yma, 27 Chwefror.
Gweddill dyddiadu’r daith:
27 Chwefror – Galeri, Caernarfon
6 Mawrth – Theatr Mwldan, Aberteifi
27 Mawrth – Neuadd Dwyfor, Pwllheli
28 Mawrth – Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug