Styc am anrheg Nadolig i rywun arbennig? Peidiwch poeni dim, achos mae gan Y Selar ateb perffaith i chi!
Rydym yn falch iawn i lansio Clwb Selar – cyfle i chi gefnogi gwaith Y Selar wrth i ni barhau hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg gyfoes, gan hefyd dderbyn llwyth o nwyddau a manteision ecsgliwsif wrth wneud hynny.
Dyma gyfle i chi ymuno â’r clwb unigryw, neu brynu aelodaeth i ffrind neu berthynas – anrheg Nadolig perffaith eleni!
Mae sawl lefel aelodaeth gyda phrisiau amrywiol, felly digon o opsiynau, gyda phecyn gwahanol ynghlwm â phob un.
Mae’r nwyddau sydd ynghlwm â’r gwahanol becynnau aelodaeth blynyddol yn cynnwys blwyddlyfr a record feinyl aml-gyfrannog cyfyngedig. Bydd pob aelod hefyd yn derbyn e-gylchlythyr rheolaidd gyda chynigion arbennig.
Felly, ydach chi am fod yn Roadie, Drymiwr, Prif Ganwr neu Reolwr? Cymrwch olwg ar becynnau aelodaeth Clwb Selar rŵan!