Mae’r canwr gwlad tafod ym moch poblogaidd, Welsh Whisperer, wedi lansio ei gynnyrch diweddaraf mewn pryd i’r Nadolig – nid cerddoriaeth y tro hwn, ond yn hytrach cwrw!
Mae’r cerddor wedi cyd-weithio â dau fragdy Cymreig i lansio dau gwrw newydd sbon sydd wedi eu bragu yng Nghymru.
Y ‘Gwd Thing Celtic Lager’ ydy’r cyntaf sydd wedi’i fragu gan fragdy Bluestone yn Nhrefdraeth, Sir Benfro. Mae’r cwrw’n 4.3% ac ar gael i’w rag archebu nawr o wefan bluestonebrewing.co.uk.
Bydd poteli o’r lager ar gael i’w prynu hefyd mewn nifer o siopau, tafarndai a bwytai ledled y wlad o fis Rhagfyr ymlaen.
Ag yntau’n byw yn y gogledd bellach, mae’r Welsh Whisperer hefyd wedi cyd-weithio â bragdy Cwrw Ogwen ym Methesda sydd wedi bragu ‘Cwrw Cap Stabal’ (4.2%) hefyd er mwyn cadw’r ddesgl yn wastad.
Bydd poteli o’r cwrw I.P.A. yma ar gael o’r bragdy, yn ogystal ag o nifer o siopau, tafarndai a bwytai ar draws Gogledd Cymru o fis Rhagfyr ymlaen hefyd.
Welsh Whisperer…y cerddor…y brand. Rhyfeddol.