Ar nos Iau 15 Hydref bydd lansiad hunangofiant un o’r sêr pop Cymraeg cyntaf, ac un o sylfaenwyr label Recordiau Sain, Huw Jones.
Cyhoeddi’r ‘Dwi isio bod yn…’ gan wasg y Lolfa a bydd lansiad rhithiol yn cael ei gynnal ar Zoom gan siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon am 18:00. Bydd Elin Fflur yn holi’r cerddor, darlledwr a dyn busnes yn ystod y lansiad.
Yn ‘Dwi isio bod yn…’, mae Huw Jones yn cofio’n ôl i’w fagwraeth yng Nghaerdydd, cyn mynd o astudio’n Rhydychen a chyflwyno rhaglen deledu Disc a Dawn, a’i benderfyniad i symud i fyw i Landwrog.
Mae’n hel atgofion am rôl y gân yn ei fywyd – o ryddhau recordiau i sefydlu cwmni Sain, gan groniclo’r methiannau a’r llwyddiannau dros y blynyddoedd.
Yn ogystal â bod yn un o sylfaenwyr y label recordiau enwog, mae Huw Jones yn cael ei gofio am y ffaith mai ei sengl enwog ef, ‘Dŵr’, oedd y record gyntaf i’w rhyddhau gan Recordiau Sain yn Hydref 1969.
Yn y gyfrol mae hefyd yn mynegi barn yn ddi-flewyn-ar-dafod am weithio ym myd teledu gan adrodd straeon am gychwyn Teledu’r Tir Glas a Barcud ynghyd â’i waith fel Prif Weithredwr S4C a Chadeirydd y sianel maes o law. Ochr yn ochr â golwg ar feddwl y dyn preifat y tu ôl i’r wyneb cyhoeddus, ceir yma ddarlun byw o dalp o fywyd Cymru ac o hanes diweddar yr iaith Gymraeg.
“Ar ôl i ’nghyfnod fel Cadeirydd S4C ddod i ben ym mis Medi 2019, roeddwn i’n teimlo mai dyma’r amser iawn i grwydro’n ôl dros y degawdau a sylwi ar y cerrig milltir ar hyd y daith” meddai Huw Jones.
“Roeddwn i wedi cychwyn rhoi’r stori at ei gilydd bob yn dipyn pan ddaeth y cyfnod clo a sicrhau na fyddai prinder amser yn esgus rhag gorffen y gwaith.”
Yn ogystal â chyhoeddi cyfrol, yn sgil cydweithio rhwng y Lolfa a chwmni recordiau Sain, bydd llyfr llafar (audiobook) yn cael ei gyhoeddi. Mae’r hunangofiant wedi ei leisio gan yr awdur ei hun, ac ochr yn ochr â straeon rhyfeddol ei fywyd, bydd modd clywed rhai o’i ganeuon.
“Mae cyfraniad Huw Jones i’r diwydiant pop Cymraeg yn amhrisiadwy, ond mae’r llyfr hwn yn dipyn mwy na hynny” meddai’r cerddor, Griff Lynch.
“Mae’n llawn straeon difyr am Gymro arloesol, mentrus ac eang ei orwelion.”
“Bu’n wych gallu cydweithio gydag awdur mor arloesol, a chyhoeddi llyfr llafar Cymraeg i gyd-fynd â llyfr” meddai Lefi Gruffydd o’r Lolfa.
“Cwbl addas hefyd i Huw Jones allu recordio’r llyfr yn stiwdio Sain nepell o’i gartref yn Llandwrog. Edrychwn ymlaen at weld y derbyniad ddaw i’r ddau fersiwn o’r llyfr ardderchog a hynod ddarllenadwy a gwrandadwy yma.”
Mae modd darllen rhannau o’r gyfrol newydd yn y rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Y Selar.