Mae cerddor ifanc o’r canolbarth wedi dechrau prosiect newydd, gan ryddhau ei sengl gyntaf wythnos diwethaf.
Tai Haf Heb Drigolyn ydy enw prosiect cerddorol Izak Zjalic, ac enw’r sengl a ryddhawyd ar 13 Gorffennad ydy ‘Saes (Mewn Fana…)’.
Daw Izak o Fachynlleth, ac efallai bydd ei enw’n canu cloch i rai gan ei fod wedi gweithio ar rai o fideos y grŵp poblogaidd Lewys.
Yn wir, mae’n ymddangos for ffryntman y grŵp, Lewys Meredydd, wedi bod y ganolog i ddatblygiad y prosiect newydd.
Addasiad o gân Robert Wyatt
Syniad Tai Haf ydy creu cerddoriaeth a darnau perfformiadol sy’n cyfuno elfennau o gerddoriaeth diwydiannol, sŵn, synth-pop a hip-hop, sy’n cael eu cymysgu’n botes arbrofol.
“Crëwyd enw y prosiect trwy drafodaeth gyda Lewys Meredydd, ac mae’n sefyll fel symbol o ddirfodaeth yn yr amserau difyr yma, yn enwedig y sefyllfa ‘lockdown’” meddai Izak.
“Rwyf hefyd wedi datblygu ystyr yr enw i fy nghanfyddiad personol o fyd sy’n gwthio ideoleg o hunaniaeth perffaith lawr wddf y cenhedlaeth i ddod.”
Mae’r sengl gyntaf, ‘Saes (Mewn Fana…)’, yn addasiad Cymraeg o’r gân ‘Pigs (In There…)’ gan Robert Wyatt, ond gyda gwahaniaeth, fel yr eglura Izak.
“Yn wahanol i’r gân wreiddiol, mae ‘Saes (Mewn Fana…)’ yn arbrofi gyda sound collage a’r defnydd o samplo hen fideo o Gymru a chaneuon prin.
“Yn chwarae mwy fel profiad sonig na chân strwythuredig, mae’r cynhyrchiad dychrynllyd a’r geiriau, sydd wedi addasu i’r Gymraeg ac i’r cyd-destun, yn creu atmosffer apocalyptig wrth ddisgrifio cerdded gyda’r teulu yn ystod dyddiau COVID-19, a gweld teulu Saesneg yn manteisio ar y sefyllfa yn eu tai haf.”
Mwy i ddod
Mae’r trac yn brosiect DIY gan Izak ac wedi’i recordio adref ar ei laptop, gyda nifer o fersiynau gwahanol o’r gân yn ôl y cerddor, cyn setlo ar y fersiwn derfynol.
“Teimlais fod y fersiwn hon yn llunio pryder y sefyllfa yn berffaith, gyda aestheteg amrwd a swnllyd wedi’i ysbrydoli gan Throbbing Gristle a Slauson Malone – dwy artist apocalyptig iawn hefyd!”
“Dwi wedi cynnwys nifer o samplau dros y trac hefyd sy’n dod o ganeuon prin a hen ffilmiau’n dogfennu Cymru.”
Yn ogystal ag Izak mae modd clywed cyfraniadau lleisiol gan Lewys Meredydd, Erwan Jones, Elan Duggan a Dafydd Duggan ar y sengl.
Yn ôl Izak gallwn ddisgwyl rhagor o draciau gan y prosiect yn fuan, gyda chymysgedd o genres gwahanol – rhai yn fwy hygyrch, ac eraill yn fwy arbrofol.