Lansio Tapestri

Mae dwy gantores sydd wedi creu enw i’w hunain fel artistiaid unigol, wedi lansio prosiect newydd ar y cyd o’r enw Tapestri.

Y ddwy dan sylw ydy Lowri Evans o Sir Benfro a Sera, sy’n dod yn wreiddiol o Gaernarfon.

Mae’r ddwy wedi bod yn perfformio ar lwyfannau Cymru, gan ryddhau cynnyrch yn rheolaidd ers sawl blwyddyn bellach, ond wedi penderfynu dod ynghyd i weithio ar brosiect newydd yn ddiweddar.

Tapestri ydy enw prosiect Americana newydd y ddwy sydd wedi datblygu yn dilyn cyfarfod ar hap rhwng y ddwy yng Ngŵyl Werin Geltaidd Lorient yn Llydaw haf diwethaf.

Yn dilyn y cyfarfyddiad gwreiddiol hwnnw, daeth y ddwy ynghyd eto nôl ym mis Hydref i ddechrau ysgrifennu caneuon sydd wedi’u hysbrydoli gan gerddoriaeth grwpiau fel The Highwomen, Alison Kraus a First Aid Kit.

Record hir i ddod

Yn ôl Lowri, mae Tapestri yn bwriadu rhyddhau record yn yr haf, gan chwarae mewn nifer o gigs a gwyliau er mwyn hyrwyddo’r casgliad newydd.

Yn y cyfamser, maen nhw’n cynnal dau gig i lansio’r prosiect yn swyddogol dros benwythnos 8-9 Chwefror. Dyma’r manylion:

8 ChwefrorTheatr Twm O’r Nant, Dinbych gyda Matthew Frederick (Climbing Trees) a Hazel and Grey

9 Chwefror – Penwythnos Americana, Y Galeri, Caernarfontgyda Matthew Frederick (Climbing Trees) a Hazel and Grey