Mae sawl record newydd wedi’u rhyddhau yn ystod cyfnod y cloi mawr erbyn hyn, ond un o’r cynharaf oedd albwm Lewys a ryddhawyd ddiwedd mis Mawrth. Roedd cryn gyffro ynglŷn â record hir gyntaf un o grwpiau mwyaf talentog ac addawol Cymru, ond chwalwyd y cynlluniau lansio gan COVID-19. Mae’n drueni nad oes cyfle i’r grŵp byw gwych yma berfformio’r albwm ar lwyfan am y tro, ond o leiaf mae’r record allan yna i’r byd ac mae Tegwen Bruce-Deans wedi mynd o dan groen y casgliad ar ran Y Selar…
Yn waedd o rwystredigaeth pobl ifanc o fewn hinsawdd apocalyptaidd bresennol ein byd, mae Rhywbryd yn Rhywle yn atgof cysurus i’r gwrandäwr nad ydyn ni ar ben ein hunain wrth wynebu’r cyfnod ansicr sydd ger ein bron.
Efallai bod albwm cyntaf Lewys wedi ymrithio ar adeg anffodus ym myd y celfyddydau, ond mae penderfyniad y band ifanc o Ddolgellau i dderbyn y sefyllfa a bwrw ymlaen yn brawf o’u hymroddiad a’u haeddfedrwydd cynamserol.
Mae ieuenctid y band yn offeryn ynddo’i hun, sy’n cael ei gynnau ym moelni dewr y gitâr yn y trac agoriadol, cyn cyrraedd ei hanterth crasboeth yn yr echdoriad aeddfed o fflamau y mae’r band yn bwydo wrth ddatblygu eu sŵn dystopaidd trechol erbyn statig y diweddglo.
Hyd yn oed o agoriad rhanedig y cyfanwaith, mae Lewys yn llwyddo i grisialu dwy ochr amlwg y band sy’n dod i’r wyneb yn ystod gwrandawiad o Rhywbryd yn Rhywle. Mae yna anhrefn tywyll bwriadol yng nghrefft y trac ‘Rhywbryd’, gyda sicrwydd gwaedd ddyblyg y prif leisydd, Lewys Meredydd, yn esgyn traw ac angerdd ill dau mewn rhwystredigaeth.
Ond megis dechrau ydy pedal glân y gitâr a churiad calon y drymiau sy’n hollbresennol ar y trac cyntaf. Gydag anadl a chyffro’r drymiau’n datblygu’n y segue i ‘Rhywle’, yn sydyn cawn ein lansio i’r sŵn cyfoethog o chwarae amrwd sy’n nodweddu traciau diweddaraf y band, gan gymryd cam tu hwnt i wreiddiau eu hamlygrwydd cynnar.
Mae Lewys yn ein harwain ar daith datblygiad eu sŵn yn ystod eu halbwm cyntaf: ar adegau’n profocio atgof o boblogrwydd eu sŵn indie / math-roc gwreiddiol, gan hefyd frolio eu haeddfedrwydd trwy gyfoethogrwydd tywyll eu hochr roc ffres.
Mae nifer eisoes wedi tynnu cymariaethau rhwng sŵn cryf, amrwd y pedwarawd ac enwau mawr fel Foals ac Estrons; cymariaethau sydd, yn ôl Lewys Meredydd, wedi dod fel ychydig o syndod i’r band.
“Mae’r gymhariaeth yn sicr yn ganmoliaeth i ni, ond be sy’n od ydy bo’ ni heb ystyried ein sŵn i fod yn debyg i’w rhai nhw” meddai’r ffryntman.
“Da’ni just yn sgwennu be ‘dani’n meddwl sy’n swnio’n dda i ni, a gall hynny fod yn unrhyw beth rili. Dyna pam, falla’, fod ’na gryn dipyn o amrywiaeth ar y tracklist.”
Datblygiadau Sonig
Er gwaethaf gwyleidd-dra eu prif-leisydd, mae’r band ifanc yn sicr wedi hen ennill digon o barch gan y gynulleidfa Gymreig.
Yn wir, daeth y band bron o nunlle nôl yn 2018 pan ryddhawyd eu sengl gyntaf, ‘Yn Fy Mhen’. Maent wedi llamu o’u teitl fel ‘Artist Newydd Gorau’ yng Ngwobrau’r Selar yn eu blwyddyn gyntaf fel band, i ennill y ganmoliaeth o gyrraedd rhestr fer ‘Band Gorau’ cwta flwyddyn yn ddiweddarach.
Ond tybed oes yna beryg o beidio rhoi digon o amser i fandiau ifanc datblygu eu sŵn trwy arbrofi a gwneud cam
Mae’n arwyddocaol i sylwi, felly, bod Lewys wedi penderfynu rhoi lle i’w traciau cynharaf fel ‘Yn Fy Mhen’ ar yr albwm – traciau gafodd eu rhyddhau cyn i’r band gael y cyfle i ddatblygu ac aeddfedu eu sŵn.
Diau fod y traciau bachog cynnar yn hawlio eu lle ar y record, ond efallai bod ieuenctid diniwed rhain hefyd yn amlygu cyfoeth ac aeddfedrwydd y traciau mwy diweddar fel ‘Y Cyffro’. Ac mae Lewys Meredydd yn cydnabod hyn…
“Dani’n pedwar yn meddwl y dylai band neu artist geisio datblygu a gwella eu hunain gymaint ag sydd yn bosib.
“Yn sicr, mae posib cl’wad ein datblygiadau sonig drwy gydol yr albwm, a dwi’n meddwl bydd y trend yma’n cario ‘mlaen.”
Heb os, dylid cymeradwyo hyder y band ifanc wrth arddangos datblygiad eu sŵn mewn modd mor falch. Ac os mai dim ond y dechrau ydy Rhywbryd yn Rhywle i’r band, mae’n anodd peidio edrych ymlaen at weld eu datblygiad a’u llwyddiannau pellach yn y dyfodol.
Lefel Bersonol
Yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad y band mae eu perthynas glos gyda’u label recordio, Recordiau Côsh.
“O’r dechra’, roedd Yws [Gwynedd, rheolwr Recordiau Côsh] yn gwneud yn siŵr bo’fi on the right track, ond eto’n gadael i mi fynegi fy ngweledigaeth greadigol megis fideos cerddoriaeth, sŵn penodol ac yn y blaen” meddai Lewys.
“Dwi’n dueddol o ‘sgwennu cân yn seiliedig ar scenario neu gymeriad dychmygol, sydd wedyn yn ara’ bach yn morphio i fod yn weddol berthnasol i mi ar lefel bersonol,” eglura.
Fyddai wedi bod mor hawdd i’r band ddod yn or ddibynnol ar arweinydd gyda chymaint o brofiad ag Yws Gwynedd. Ond mae’n amlwg mai dim ond annog a meithrin dawn y band yw ei rôl ef, wrth i’w sŵn symud tu hwnt i’r sŵn generic Côsh-aidd rydym wedi ymgyfarwyddo ag ef yn dilyn llwyddiant bandiau indie-pop eraill y label fel Gwilym.
Yn wir, yn briodol i’r trac olaf, ‘Adnabod’, mae’n glir mai dim ond cychwyn dod i adnabod y band Lewys ydyn ni wrth i’r albwm dynnu i derfyn.
Yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r caneuon eraill, naws freuddwydiol a gonest sydd i’r trac yma sydd ar yr un pryd yn ysgafn ar y glust, ond trwm yn effaith ei neges:
“Mae’n amser i ni ganfod sut ga’ i f’adnabod – ‘dw i’n colli gobaith yn fy hun”.
Dyma uchafbwynt aeddfedrwydd y band wrth iddynt gydnabod, wedi eu hymdriniaeth amrwd a thywyll o weddill yr albwm, bod modd cael cystal effaith sonig gyda chyffyrddiad mwy tyner a theimladwy.
Gyda’r diweddglo statig sydyn, mae Lewys yn chwarae gyda’r gwrandawyr ac yn ein gadael ni’n erfyn am fwy.
Mae’r pandemig presennol wedi cael effaith anochel ar dderbyniad Rhywbryd yn Rhywle, ac yn ddiau fe fydden wedi derbyn mwy i ddiwallu ein awch gan gyfaredd naturiol Lewys Meredydd o ganol y llwyfan trwy gydol yr haf. Fodd bynnag, hyderaf fydd y band ifanc yn manteisio ar awydd y gwrandawyr am fwy ac yn dod allan o hyn yn fwy aeddfed fyth, yn barod i swyno’r dorf sy’n sicr o fod yn aros amdanynt.
Ecsgliwsif: Sesiwn byw ‘Rhywle’ gan Lewys
Geiriau: Tegwen Bruce-Deans
Lluniau: FfotoNant @ Gwobrau’r Selar (Chwefror 2020)