Cip fach nôl mewn amser i chi, ac yn ôl i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn Chwefror 2015 ar gyfer Gwobrau’r Selar.
Yws Gwynedd, Candelas a Sŵnami oedd y prif enillwyr y flwyddyn honno, gydag Yws yn cipio hatric o wobrau. Mi wnaeth o hefyd gamu i’r llwyfan i wneud perfformiad arbennig o ‘Sebona Fi’…nes tripio’r trydan ar ddechrau’r gytgân…deirgwaith!
Dyma Ran 1 galeri lluniau Betsan Haf @ Celf Calon o’r digwyddiad (cliciwch ar y lluniau unigol i’w gweld yn fwy) – rhan 2 i ddilyn…