Lŵp yn cyhoeddi fideo i gân magi.

Mae cyfres Lŵp ar S4C wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer y trac ‘Golau’ gan magi. ar eu llwyfannau digidol.

Rhyddhawyd y gân yn wreiddiol ar label Recordiau Ski-Whiff ym mis Rhagfyr 2019.

magi. ydy enw perfformio newydd y gantores Magi Tudur, sy’n perfformio’n rheolaidd ar lwyfannau Cymru ers sawl blwyddyn.

Mae’r fideo newydd wedi’i gyfarwyddo gan Andy Pritchard.