Map Meddwl – rhyddhau ail albwm Yr Eira

Mae Yr Eira wedi rhyddhau ei hail albwm, Map Meddwl, ers dydd Gwener 15 Mai.

Roedd cyfle cyntaf i glywed yr albwm llawn nos Iau wrth i flog Sôn am Sîn gynnal parti gwrando ar Twitter. Yn dilyn hynny, roedd ffrwd byw o gyfweliad gydag aelodau’r band, dros Zoom, yn cael ei ddarlledu ar dudalen Facebook Sôn am Sîn.

Yn ystod y cyfweliad mae’r grŵp yn trafod proses recordio Map Meddwl, a sut mae’r sŵn wedi datblygu ers albwm cyntaf Yr Eira, Toddi.

Yn ogystal â’r aelodau craidd, mae nifer o westeion eraill sydd wedi cyfrannu at yr albwm yn ymuno yn ystod y sgwrs gan gynnwys y cynhyrchydd Ifan Emlyn a Cybi Williams sy’n gyfrifol am y gwaith celf.

Parti Lansio Map Meddwl!

Croeso i barti lansio Map Meddwl gan Yr Eira!Cyfle i glywed gan y band eu hunain a rhai o'r unigolion sydd y tu ôl i'r tiwns!

Posted by Sôn am Sîn on Thursday, 14 May 2020

Map Meddwl ydy ail record hir Yr Eira hyd yma – rhyddhawyd y gyntaf, Toddi yn 2017, a chyn hynny yr EP Colli Cwsg yn 2014.

Mae’r grŵp wedi ennyn tipyn o ddilyniant ac wedi cael cyfle i berfformio mewn nifer o wyliau mawr gan gynnwys T in the Park, Sound City, Gŵyl Sŵn, Truck Festival, a Gŵyl Rhif 6. Maent yn gobeithio teithio Prydain yn hwyrach yn y flwyddyn.

Mae’r albwm newydd wedi’i recordio yn Stiwdio Sain, Llandwrog gydag  Ifan Emlyn ac Osian Huw, gydag Eddie Al-Shakarchi yn gyfrifol am gymysgu a mastro.

Mae modd gwrando ar yr albwm yn llawn ar Soundcloud Yr Eira ar hyn  bryd: