Mewn darn estynedig arbennig, Tegwen Bruce-Deans sy’n dadansoddi ac yn cnoi cil dros ail albwm Yr Eira, Map Meddwl.
“Follow us on a journey, make sure to listen to these melodies”. Dyma yw cyfarwyddiadau swynol Lewys Wyn, wrth iddo’n croesawu a’n denu ni i mewn i’r tawch o alawon electro-pop sy’n addurno ail albwm hirddisgwyliedig Yr Eira.
Taith ydy’r album, ac mae’r band yn addo’n tywys ar hyd trywydd troellog ffrwyth eu meddyliau o’r datsain pwl cyntaf un yn ‘Middle of Nowhere’, hyd at orfoledd uchafbwynt anthemiog drymio Guto Howells yn niweddglo ‘Caru Cymru’.
Yn rhy aml yn y byd cerddorol caiff enwau mawr y sin awr eu hanterth, cyn cilio’n ôl i ddistawrwydd y cyrion. Ond wrth ryddhau Map Meddwl, daw i’r amlwg fod Yr Eira wedi neidio tu hwnt i’r tuedd hwn, ac yn parhau i fod yn gyffrous o gynhyrchiol. Mae’n debyg bod gan y band llawer mwy i’w ddweud wrthym, a dyma albwm sy’n gweiddi hynny o’r copa uchaf.
Aeddfedu’n gerddorol ac yn feddyliol
O’r nodyn cyntaf, sylweddolwn nad brawd bach indie jangle i Sŵnami ydy Yr Eira bellach.
Cafodd y cam tuag at sŵn mwy dystopiaidd electronig ei ffurfio’n gychwynnol gyda rhyddhau eu halbwm cyntaf, Toddi. Ond yn oes orchfygol yr indie-pop Cymreig, dichon cafodd y cam tuag at newid ei ddistewi gan alawon y gitars bachog poblogaidd.
Mae Map Meddwl felly wedi caniatáu i’r band gerfio a diffinio ymhellach eu hunaniaeth unigryw o fewn sîn gerddorol ehangach heddiw.
Er nad yw’r band wedi tawelu dros y blynyddoedd, mae sŵn yr albwm hwn yn sicr yn brawf o’r modd maent yn aeddfedu. Mae Lewys Wyn, prif-leisydd y band, yn cydnabod hynny hefyd,
“Yn sicr dani wedi symud oddi wrth y sŵn cynnar poblogaidd, ond mae hynny’n naturiol wrth ti fynd yn hŷn, aeddfedu yn gerddorol ac yn feddyliol.”
Gwelwn ym mawredd traciau fel ‘Esgidiau Newydd’ gywasgiad o sawl arddull mewn ychydig o funudau, gan ganiatáu iddo fod ar yr un pryd yn don o freuddwydio electronig moel, ac yn waedd o sicrwydd gan y drymiau roc.
Meddai Lewys ei fod yn hoff o “deithio trwy sawl genre wrth ysgrifennu cerddoriaeth” – efallai mai prawf o benderfyniad sicr y band i gamu tu hwnt i ffiniau diogelwch eu sŵn poblogaidd cynnar ydy taflu pob dim at bob trac unigol.
Nid dim ond yn sŵn Yr Eira gwelwn befrio’r aeddfedrwydd hwnnw chwaith, ond yng ngeiriau ystyrlon y traciau hefyd.
Yr unig drac sy’n gaeth i uniaith Saesneg ar yr albwm, mae cri o rwystredigaeth unedig yn codi oddi wrth y trac agoriadol ‘Middle of Nowhere’. Mae sŵn breuddwydiol y synths yn ein tynnu i mewn i’r islais o emosiynau personol y band.
“Dwi’n licio canu am ein profiadau ni fel pobl ifanc yng Nghymru yn 2020, ac yn gefnogwr brwd o annibyniaeth, fydda hi’n wirion peidio hyrwyddo’r ymdrech drwy ganeuon. Dwi’n teimlo’r ddyletswydd i gefnogi ac i ganu am annibyniaeth er mwyn cyfrannu a bod yn rhan o’r drafodaeth ehangach,” esbonia Lewys.
Creu synnwyr
Yn wir, wrth i’r band daflu helaethder o syniadau amrywiol at bob un trac, gallwn weld sut y mae map meddwl yr albwm ei hun yn ffurfio o fewn yr alawon – boed yn amrywiaeth gerddorol rhwng cymysgedd Stokes-aidd y synths a gwreiddiau’r gitâr indie-pop, neu’n eiriol wrth i Lewys fynegi emosiynau sydd ar yr un pryd yn bersonol o deimladwy fel yn y brif sengl ‘Pob Nos’, ond sydd hefyd yn cael eu rhannu’n genedlaethol.
Cyfaddefa Lewys fod teitl yr album wedi caniatáu rhyddid i’r band rhag hualau ymrwymiad i thema benodol.
“Ma galw’r albwm yn Map Meddwl yn cyfiawnhau’r gallu i ysgrifennu am be bynnag dani isio. Yn syml dyma ydi ethos yr albwm, casgliad o feddyliau, emosiynau a phrofiadau wedi ei daflu mewn i record.”
Casgliad yn sicr ydy Map Meddwl, a derbyniwn synnwyr gan segway rhythmig y gitâr yn y diweddglo epic ‘Corporal Caru Cymru’ mai’r bwriad ydy rhoi profiad i’r gwrandäwr wrth wrando ar yr albwm yn ei gyfanrwydd.
Ond mae caethiwed y to ifanc i bethau byrhoedlog di-oed, wedi cyplysu gyda magl beryglus y botwm shuffle, yn cyflwyno rhwystr newydd i uchelgais y band.
“Mae rhaid i gerddoriaeth gyd-redeg hefo cymdeithas ac ymateb i agweddau cyfredol,” cydnabydda Lewys.
“Mae’r caneuon yn gweithio ar pen eu hunain yn ogystal â mewn cyfanrwydd.
“Mi oedd hi o hyd yn fwriad genna ni greu casgliad o ganeuon sy’n rhoi’r profiad i’r gwrandäwr a creu’r ymdeimlad yma o berthyn, a dwi’n meddwl fod yr albwm yn llwyddo i gyd-bwyso’r profiad llawn yn ogystal â’r gallu i dynnu’r gwrandawyr yn ôl i wrando ar ganeuon unigol.”
Ymestyn ffiniau’r sîn
Diau fod profiad yn rhan allweddol o albwm, o’r broses ysgrifennu hyd at berfformio’r cynnyrch terfynol.
O ganlyniad i gyfyngiadau’r hunan-ynysu presennol, bu’n rhaid i’r Eira fanteisio ar lwyfan ar-lein y blog cerddorol Sôn am Sîn yn hytrach na lansio’r albwm yn gorfforol. Ond er nad delfrydol ydy colli’r rhyngweithiad uniongyrchol yma rhwng y band a’r gynulleidfa, mae yna bwyntiau cadarnhaol wedi codi o’r symudiad ar-lein, fel y mae Lewys yn pwysleisio…
“Dwi’n meddwl fod hi’n bwysig fod yna bobl yn cyfrannu i’r sin mewn modd organig fel hyn.
“Ar ddiwedd y dydd ffans ydi Geth [Griffiths] a Chris [Robaij, cyd-olygyddion Sôn am Sîn], sy’n licio trafod cerddoriaeth sydd i’w blas hwy. Mae hi’n bwysig cefnogi hyrwyddwyr annibynnol er mwyn ymestyn ffiniau’r sin.”
Gyda Maes B a rhan helaeth o wyliau’r haf bellach wedi’u canslo er diogelwch pawb, mae’n debyg bydd yna effaith anochel ar groesawiad Map Meddwl i lygaid y byd. Ond er hynny, mae’r daith freuddwydiol o gyfoethog y llwydda’r band i’n tywys ni ar ei hyd yn cynnig dihangfa i’w chroesawu ar hyn o bryd.
Dyma sŵn hafaidd sy’n cynnig blas ar hen ryddid, ac yn goflaid ffres gydag ôl cyfarwydd sy’n taro’r clust.