Mei Gwynedd ac anturiaethau Awst ’93

Mae Mei Gwynedd wedi rhyddhau sengl newydd sy’n dwyn atgofion melys am y cyfnod rhwng troi o blentyn i oedolyn.

Rhyddhawyd ‘Awst ‘93’ gan y cyn-aelod Big Leaves a Sibrydion ddydd Gwener, 26 Mehefin, a hynny ar y label mae Mei ei hun yn ei reoli, JigCal.

Ag yntau wedi bod yn aelod amlwg o rai o fandiau mwyaf Cymru, mae’r cerddor wedi troi at ryddhau cynnyrch unigol ers dwy flynedd bellach – rhyddhaodd ei albwm unigol cyntaf, ‘Glas’, union ddwy flynedd yn ôl ym Mehefin 2018 gyda’r EP ‘Tafla’r Dis’ yn dilyn ym mis Ionawr 2019.

Nawr mae un o gerddorion mwyaf adnabyddus Cymru’n barod i ryddhau rhagor o gynnyrch ar ffurf y sengl newydd sy’n dwyn atgofion hapus o gynnal partïon gwersylla yn Ninas Dinlle, Caernarfon gyda’i ffrindiau yn ystod y 1990au cynnar.

“Cyfnod byr iawn yw’r cyfnod rhwng bod yn blentyn ac oedolyn” meddai Mei wrth drafod y sengl newydd.

“Dyma gân sy’n edrych yn ôl ar y cyfnod byr ond hapus tu hwnt hynny, y partis, yr hwyl a’r chwerthin.

“Ychydig fisoedd yn dilyn anturiaethau ‘Awst 93’ aeth pawb ar drywydd gwahanol mewn bywyd, felly mae gen i le arbennig yn fy nghalon am ‘Awst 93’ am y rheswm hynny. Dwi’n gobeithio fod y gân yn crisialu’r cyfnod coming of age hynny mewn modd hwylus a llon.”

Gyda’i chytgan bachog a geiriau nostalgic, mae’r gân yn siŵr o gydio, ac fe alla’i gael ei hychwanegu at y rhestr o anthemau mae Mei wedi bod yn gyfrifol am eu cyfansoddi dros y blynyddoedd.

Roedd cyfle cyntaf i glywed ‘Awst ’93’ yn cael ei pherfformio yn ystod set Mei Gwynedd yng ngŵyl digidol Tafwyl oedd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn diwethaf ar wefan AM.